Mae’r Gweilch wedi cadarnhau bod y bachwr Ifan Phillips wedi bod mewn damwain traffig ffordd ddifrifol yn Abertawe brynhawn Sul.

Mae bellach yn sefydlog wedi triniaeth yn Ysbyty Treforys, ond ag anafiadau difrifol.

Cadarnhaodd y rhanbarth fod Ifan Phillips, 25 oed – mab cyn fachwr Cymru a Chastell-nedd, Kevin Phillips – yn rhan o ddamwain yn Abertawe ddydd Sul ac yn cael triniaeth yn Ysbyty Treforys.

Mewn datganiad, dywedodd Heddlu De Cymru: “Mae swyddogion yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffordd difrifol a ddigwyddodd tua 1.38pm ddydd Sul, 5 Rhagfyr ar y B4603, Morfa Road, Glandŵr, Abertawe, gyferbyn â Chlwb Cymdeithasol Glandŵr.

“Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys dau feic modur, Scrambler Stryd Triumph gwyrdd a Kawasaki.

“Cafodd un reidiwr ei gludo i’r ysbyty, lle mae’n dal i fod ac mae’n cael ei drin am anafiadau sy’n newid bywyd.

“Roedd y ffordd ar gau am nifer o oriau tra bod ymchwiliadau’n parhau, ac rydym yn diolch i unrhyw un sydd wedi eu heffeithio yn ystod y cyfnod hwn am eu hamynedd.

“Hoffem siarad ag unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu sydd â lluniau dash-cam, unrhyw un a stopiodd i ddarparu cymorth, neu unrhyw un a welodd y beiciau modur cyn y gwrthdrawiad.”

Mae Ifan Phillips wedi chwarae 40 gêm i’r Gweilch, gan wneud ei ymddangosiad cyntaf yn 2017.

‘Estyn cariad’

“Ar ran ei gyd-chwaraewyr, hyfforddwyr, staff, holl gefnogwyr y Gweilch & y gymuned rygbi, rydym am estyn ein holl gariad a chefnogaeth i Ifan, ei deulu a’i ffrindiau,” meddai’r Gweilch mewn datganiad.

“Mae teulu Ifan yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth a gawsant yn ystod y dyddiau diwethaf.”

“Trafferth dod o hyd i’r geiriau”

Mae Tony Booth, prif hyfforddwr y Gweilch, wedi cynnig holl gefnogaeth y tîm i Ifan Phillips a’i deulu wedi’r ddamwain, gan ddweud bod hwn yn “ddiwrnod siomedig”.

“Yn amlwg, mae’n ofnadwy, trasig, yn peri loes i bawb, yn enwedig fo ei hun a’i deulu,” meddai Tony Booth, prif hyfforddwr y Gweilch, mewn cynhadledd i’r wasg.

“Dw i’n cael trafferth dod o hyd i’r geiriau, â bod yn deg.

“Yn syml, rydyn ni angen bod yno i Ifan ym mha bynnag ffordd yn y tymor byr, hir, a chanolig, a byddwn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i’w helpu a’i gefnogi drwy’r trawsnewidiad nesaf yn ei fywyd, a fydd yn newid mawr iddo.

“Cyn gynted ag y gwnaethon ni gael gwybod, roedden ni’n agored ac onest, fel gyda phopeth.

“Fel y gallwch chi ddychmygu fe wnaeth [y garfan] ymateb ychydig fel y byddech chi’n disgwyl gan gyd-chwaraewr wrth gael newyddion trasig. A theimlad o sioc.

“Felly rydyn ni wedi gweithio drwy hynny gydag unigolion, a rhoi cefnogaeth i unigolion penodol, a lot o gefnogaeth gan Gymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru, ac yn fewnol mae gennym ni bobol i helpu – nid i helpu Ifan a’i deulu yn unig, ond i helpu’r chwaraewyr sy’n agos iawn ato.

“Mae gorfod gorffen gyrfa yn gynnar yn sgil anaf yn peri loes, yn enwedig mor ifanc. Roedd e wastad mor barod i weithio’n galed, a gweithio ar ei gêm.

“Roedd ganddo bersonoliaeth dda, ac roedd yn cyfrannu ac yn ymroddedig iawn. Felly, mae’n ddiwrnod siomedig, yn sicr.”