Bydd trefnwyr Cwpan Rygbi’r Gynghrair y Byd yn anrhydeddu’r chwaraewr arloesol Clive Sullivan gan enwi pêl y gystadleuaeth flwyddyn nesaf ar ei ôl.

Y Cymro oedd y chwaraewr du cyntaf i gapteinio tîm cenedlaethol ym Mhrydain yn unrhyw gamp, ac fe wnaeth arwain tîm Prydain i fuddugoliaeth yng Nghwpan y Byd 1972, gan sgorio cais o 60-metr yn y ffeinal yn erbyn Awstralia.

Pan fydd Cwpan y Byd yn cael ei chynnal yn hwyr flwyddyn nesaf, bydd hi’n 50 mlynedd ers y fuddugoliaeth honno, a bydd ‘Pêl Sully’ yn cael ei ddefnyddio ym mhob un o’r 61 gêm ar draws cystadlaethau’r dynion, merched, a chadair olwyn.

Cafodd y gystadleuaeth eleni ei gohirio oherwydd y pandemig, ac ar ôl i Awstralia a Seland Newydd dynnu allan yn dilyn “pryderon dros les a diogelwch eu chwaraewyr.”

‘Llysgennad gwych ar gyfer ein gêm’

Cafodd y bêl ei chyhoeddi heddiw (dydd Mercher, 8 Rhagfyr) gan y gwneuthurwyr, Steeden, yn stadiwm Hull F.C. – lle gwnaeth Clive Sullivan chwarae dros 350 o gemau a dod yn brif sgoriwr y clwb.

Roedd un o gyd-chwaraewyr Sullivan yn y ffeinal yn 1972 – y bachwr Mike Stephenson – yn croesawu’r cyhoeddiad heddiw.

Cred Stephenson fod Prydain wedi llwyddo’r diwrnod hwnnw oherwydd arweinyddiaeth Sullivan, a fu farw o ganser yn 1985 yn 43 oed.

“Mae’n syniad gwych,” meddai Mike Stephenson.

“Rhoddodd y wasg ddim siawns o gwbl i ni gan fod cryn dipyn o chwaraewyr, fel Roger Millward, yn absennol, ond unwaith aethon ni i’r gwersyll ymarfer, roeddech chi’n gallu dweud ein bod ni’n mynd i gael twrnament da.

“Daeth hynny i lawr i ysbryd y tîm a’r capten, Clive. Roedd Clive yn gyd-aelod gwych o’r tîm ac yn llysgennad gwych ar gyfer ein gêm.

“Drwy’r weithred hon, mae gennyn ni gyfle i addysgu’r genhedlaeth nesaf o gefnogwyr ynglŷn â thaith ein camp a’r rôl gadarnhaol y chwaraeodd Clive yn ei llwyddiant.”

‘Eicon’

Does dim un tîm o Brydain wedi ennill Cwpan y Byd ers 1972, pan arweiniodd Sullivan y tîm i fuddugoliaeth.

Ers 1995, mae tair gwlad Prydain Fawr wedi cystadu ar wahân yn y gystadleuaeth.

“Mae Clive Sullivan wir yn eicon chwaraeon ym Mhrydain,” meddai prif weithredwr Cwpan y Byd, Jon Dutton.

“Mae’n bwysig dathlu’r dreftadaeth gyfoethog a bywiog sydd gan y gamp ac mae hwn yn gyfle gwych i ddod â moment allweddol o hanes y gorffennol yn fyw.

“Mae’r hyn a gyflawnodd Clive yn rygbi’r gynghrair yn anhygoel a bydd yr effaith ehangach a gafodd mewn chwaraeon a chymdeithas bob amser yn cael ei chofio.”

‘Effaith gadarnhaol’

Fe wnaeth gwneuthurwyr y bêl, Steeden, ddylunio’r bêl mewn cydweithrediad â theulu Clive Sullivan, i adlewyrchu prif werthoedd y gystadleuaeth a’r effaith sylweddol y cafodd y gŵr o’r Sblot yng Nghaerdydd ar y gamp.

Dywedodd mab Clive, Anthony Sullivan, sydd hefyd yn gyn-chwaraewr rhyngwladol i Gymru a Phrydain, y byddai ei dad yn “teimlo anrhydedd a’n dangos gwyleidd-dra” wrth dderbyn y gydnabyddiaeth.

“Rwy’n siŵr y byddai’n bachu ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i’w gyd-chwaraewyr a’r staff sy’n rhan o’r fuddugoliaeth ysbrydoledig honno yng Nghwpan y Byd,” meddai Anthony.

“I bob un o’r teulu, mae’n arbennig iawn ei weld yn cael ei werthfawrogi fel hyn ac i’w enw gael effaith gadarnhaol ar genedlaethau’r dyfodol o fewn y gamp.”

‘Un Tîm. Un Ddynoliaeth’: anrhydeddu chwaraewyr rygbi Caerdydd

Bydd Billy Boston, Gus Risman a Clive Sullivan yn cael eu hanrhydeddu gyda cherflun yr un yng Nghaerdydd