Sgoriodd Marnus Labuschagne 74 i helpu Awstralia i adeiladu blaenoriaeth swmpus dros Loegr ar ail ddiwrnod prawf cyntaf Cyfres y Lludw ar y Gabba yn Brisbane.

Tarodd Travis Head ganred ar ôl curo un arall o gyn-fatwyr Morgannwg, Usman Khawaja, i’r pumed safle batio yn nhîm yr Awstraliaid.

Ar ôl bowlio Lloegr allan am 147 ar y diwrnod cyntaf byr, roedden nhw’n 343 am saith – blaenoriaeth o 196 – ar ddiwedd yr ail ddiwrnod.

Sgoriodd David Warner 94, ond fe allai fod wedi cael ei fowlio am 17 ond roedd Ben Stokes wedi croesi’r llinell fowlio. Cafodd ei ollwng wedyn gan Rory Burns yn y slip ar 48, ac fe oroesodd e ymgais i’w redeg allan ar 60 wrth i Haseeb Hameed fethu ei darged.

Ar ôl i Ollie Robinson gipio wiced Warner, aeth Head yn ei flaen i sgorio 112 heb fod allan, gan gyrraedd ei ganred oddi ar 85 o belenni – y trydydd cyflymaf yn hanes y Lludw – ond roedd Awstralia wedi llithro rywfaint gan golli pedair wiced am 29.

Ar ôl i Loegr hepgor Jimmy Anderson a Stuart Broad, y ddau fowliwr cyflym mwyaf profiadol sydd gan Loegr, cafodd y troellwr Jack Leach ei golbio am 95 rhediad mewn 11 pelawd, gan gynnwys ergyd chwech enfawr gan Labuschagne.

Cyrhaeddodd batiwr Morgannwg ei hanner canred cyn cinio, ond daeth partneriaeth o 156 gyda Warner i ben pan gafodd ei ddal oddi ar fowlio Leach wrth ergydio’n sgwâr, gyda Steve Smith yn cael ei ddal tu ôl y wiced am 12 oddi ar fowlio Mark Wood.

Cipiodd Robinson ddwy wiced mewn dwy belen wedyn, gyda Warner yn cael ei ddal gan Stokes yn gyrru ar yr ochr agored, cyn i Cameron Green gael ei fowlio.

Cipiodd Chris Woakes wiced Alex Carey a chafodd Pat Cummins ei ddal yn y slip ar ochr y goes.

Mae gan Loegr gryn dipyn o waith i’w wneud eto i achub yr ornest hon, ond diolch i gyfraniad Labuschagne, bydd Awstralia’n teimlo’n hyderus ar hyn o bryd o fynd i mewn i’r ail brawf gyda blaenoriaeth o 1-0 yn y gyfres.