Roedd Robbie Save, cyn-chwaraewr canol cae Cymru, yn sylwebu wrth i’w fab Charlie ymddangos yng nghrys Manchester United am y tro cyntaf neithiwr (nos Fercher, Rhagfyr 8).

Cafodd Charlie Savage ei eni yng Nghaerlŷr yn 2003 tra bod ei dad yn chwarae i glwb y ddinas honno, ond fe gododd e drwy’r rhengoedd yn Old Trafford, gan lofnodi ei gytundeb proffesiynol gyda’r clwb fis Ebrill eleni.

Er iddo gael ei eni yn Lloegr, mae’n gymwys i chwarae dros Gymru.

Ac fe gafodd ei flas cyntaf ar bêl-droed gystadleuol i oedolion neithiwr, gan ddod i’r cae yn eilydd ar gyfer munudau ola’r gêm yn erbyn Young Boys yng Nghynghrair y Pencampwyr, gêm yr oedd ei dad yn sylwebu arni i BT Sport.

Mae Charlie Savage eisoes wedi cynrychioli timau dan 17 a dan 18 Cymru, ac fe gafodd ei alw i’r garfan dan 19 fis Awst eleni, gan sgorio yn y golled o 3-2 yn erbyn Awstria.

Yn chwaraewr canol cae fel ei dad, mae e’n amddiffyn ac yn ymosod yr un mor gadarn â’i gilydd, ond mae’n teimlo ei fod yn fwy technegol na’i dad, oedd yn fwy corfforol.