Mae clwb pêl-droed Casnewydd wedi rhybuddio eu cefnogwyr am ymddygiad amhriodol yn eu gemau “yn dilyn sawl digwyddiad.”

Yn yr wythnosau diwethaf, mae nifer o gefnogwyr y clwb, a chefnogwyr eu gwrthwynebwyr, wedi rhedeg ar y cae chwarae yn ystod gemau, gan gynnwys y gêm yn erbyn Sutton nos Fawrth (7 Rhagfyr).

Dywedodd yr Alltudion na fyddan nhw’n “goddef ymddygiad o’r fath yn y dyfodol,” ac yn cymryd “camau angenrheidiol” yn erbyn unigolion sy’n cael eu canfod yn torri rheolau.

‘Diogelwch chwaraewyr o’r pwys mwyaf’

Rhoddodd y clwb ddatganiad ar eu gwefan yn rhybuddio cefnogwyr.

“Fel clwb cymunedol, fydd clwb pêl-droed Casnewydd ddim yn goddef agweddau nac ymddygiadau sy’n cynnwys rhagfarn, anwybodaeth, anystyriaeth neu stereoteipio,” medden nhw.

“Ar ben hynny, mae’r clwb yn disgwyl i bob cefnogwr gadw at reoliadau’r awdurdod pêl-droed – yn benodol mewn perthynas â thresmasu ar y cae.

“Mae cefnogwyr yn cael eu hatgoffa bod tresmasu ar y cae yn drosedd a bydd yn cael ei gymryd o ddifrif pan fydd yn digwydd. Er ein bod ni’n gwerthfawrogi bod emosiynau’n gyffrous, fyddwn ni ddim yn goddef ymddygiad o’r fath.

“Mae diogelwch chwaraewyr o’r pwys mwyaf, ynghyd â’r angen i ddiogelu’r clwb rhag cosbau ariannol sylweddol posibl neu unrhyw orchmynion am fesurau diogelwch ychwanegol.”

Bydd Casnewydd yn croesawu Port Vale i Rodney Parade ddydd Sadwrn yma (11 Rhagfyr), gan lygadu lle yn safleoedd ail-gyfle’r Ail Adran.