Mae adroddiadau yn yr Eidal yn awgrymu bod Everton a Newcastle yn awyddus i geisio prynu Aaron Ramsey ym mis Ionawr.
Dim ond pum ymddangosiad y mae’r Cymro wedi’u gwneud i Juventus y tymor hwn.
Yn ôl y wefan newyddion chwaraeon Calciomercato mae rheolwr Juventus, Massimiliano Allegri, wedi cyrraedd pen ei dennyn gyda’r Cymro yn sgil cyfres o anafiadau.
Mae’r wefan yn awgrymu fod Juventus wedi ceisio ei werthu yn ystod yr haf, ond fod ei gyn-glwb, Arsenal, wedi gwrthod cynigion i’w gymryd yn ôl.
Ond nawr, mae yno adroddiadau bod Everton wedi cysylltu â chynrychiolwyr Ramsey gyda’r bwriadu o’i ddenu i Goodison ym mis Ionawr.
Tîm arall sy’n awyddus i ddenu’r chwaraewr canol cae yn ôl i Uwchgynghrair Lloegr ydi Newcastle.
Mae’r clwb – sy’n olaf-ond-un yn yr Uwchgynghrair – yn awyddus i ychwanegu mwy o safon i’r garfan ar ôl cael ei brynu gan grŵp o Saudi Arabia.
Mae’n debyg y byddai’r arian newydd sydd gan y clwb yn golygu y gallan nhw fforddio Ramsey yn ogystal â’i gyflog sylweddol sy’n costio £7 miliwn y flwyddyn i Juventus.
Mae gan Everton hefyd berchennog cyfoethog – Farhad Moshiri – ond mae’r Toffeemen wedi bod yn gynnil yn ddiweddar oherwydd rheolau ‘chwarae teg ariannol’ sy’n cyfyngu ar wariant clybiau.