Bydd yn rhaid i lanc 15 oed o Gaint ddilyn rhaglen addysg ar ôl sarhau un o chwaraewyr pêl-droed Abertawe yn hiliol ar y cyfryngau cymdeithasol.

Cafodd y negeseuon eu holrhain i gyfeiriad yng Nghaint yn dilyn gêm Abertawe yn erbyn Manchester City yng Nghwpan FA Lloegr ym mis Chwefror, ac fe wnaeth Instagram atal y cyfrif dros dro.

Fe wnaeth Heddlu’r De gynnal ymchwiliad, gan drosglwyddo’r achos i Heddlu Caint ym mis Mai ar ôl i’r anfonwr, oedd yn 14 oed ar y pryd, gael ei ganfod yn byw yn Dartford.

Cafodd ei gyfweld gan yr heddlu ym mis Medi, ac fe gyfaddefodd iddo ddanfon y negeseuon yn groes i’r Ddeddf Cyfathrebu Maleisus.

Nod y rhaglen yw atal troseddwyr rhag anfon negeseuon o’r fath eto ar ôl iddyn nhw droseddu am y tro cyntaf.

Cyhoeddusrwydd i’r achos

Yn dilyn yr helynt, fe fu Yan Dhanda yn siarad â golwg360 yn ystod cynhadledd i’r wasg.

Eglurodd Dhanda, sy’n enedigol o Birmingham, fod ei fam-gu a’i dad-cu ar ochr ei dad wedi cael eu geni yn India – yn ardal y Punjab – tra bod ei dad wedi’i eni yn Lloegr, a’i fam o dras Gwyn Prydeinig.

“Dw i’n hynod falch o le dw i’n dod ac o le mae fy nheulu’n dod a fyddwn i ddim yn newid hynny o gwbl,” meddai wrth golwg360.

“Dw i’n un o’r ychydig bobol Asiaidd yn y byd pêl-droed ond mae hynny’n fy nghyffroi ac yn rhoi’r cyfle i fi chwalu’r rhwystrau ac i fod yn arwr i nifer o blant sy’n dod trwodd.

“Dw i’n falch iawn o le dw i’n dod a dyna pam wnaeth derbyn y negeseuon sarhaus fy mrifo gymaint – roedd ceisio fy sarhau i ar sail lle dw i’n dod yn eitha’ trist.”

Yn dilyn yr helynt hwn ac ar ôl i nifer o chwaraewyr eraill gael eu sarhau, cynhaliodd Clwb Pêl-droed Abertawe foicot o’r cyfryngau cymdeithasol dros gyfnod o wythnos, wrth i Yan Dhanda ddweud nad oedd cwmnïau fel Instagram yn gwneud digon i fynd i’r afael â hiliaeth ar y we.

Fe wnaeth y clwb ymateb yn chwyrn i negeseuon a gafodd eu hanfon at Dhanda, Jamal Lowe, Morgan Whittaker a Ben Cabango, gan ddweud eu bod nhw’n “drist, yn ddig ac wedi’u ffieiddio”.

“Mae’r ffaith fod hyn wedi digwydd yn ystod cyfnod pan fo clybiau, chwaraewyr a rhanddeiliaid wedi dod ynghyd ar gyfer boicot o’r cyfryngau cymdeithasol am yr union reswm hwnnw, unwaith eto yn dangos faint o waith sydd angen ei wneud o hyd,” meddai llefarydd ar ran y clwb,” meddai llefarydd ar y pryd.

“Yn drist iawn, Morgan yw pedwerydd chwaraewr Abertawe i ddiodde’r fath sarhad ffiaidd a gwarthus ar-lein ers mis Chwefror – sy’n dditment damniol o’r byd rydyn ni’n byw ynddo.”

Fe wnaeth nifer o glybiau eraill yn y byd pêl-droed a’r byd chwaraeon ehangach, gan gynnwys Clwb Criced Morgannwg, gefnogi’r boicot.

 

Logo Abertawe

Heddlu yn ymchwilio i neges hiliol tuag at chwaraewr Abertawe

Yn dilyn colled ei dîm yn erbyn Manchester City derbyniodd, Yan Dhanda, negeseuon hiliol ar wefannau cymdeithasol
Yan Dhanda

Pêl-droediwr Asiaidd Abertawe’n galw am waharddiad oes am negeseuon hiliol ar y we

Alun Rhys Chivers

“Dydy’r cwmnïau cyfryngau cymdeithasol ddim wedi fy argyhoeddi y byddan nhw’n gwneud yn well y tro nesaf” medd Yan Dhanda wrth golwg360
Logo Abertawe

Streic wythnos CPD Abertawe fel safiad yn erbyn camdriniaeth ar-lein

Tri o chwaraewyr wedi cael eu targedu gan ymosodiadau hiliol o fewn y saith wythnos ddiwethaf

Sefydliadau pêl-droed yn dilyn esiampl Abertawe wrth gynnal boicot o’r cyfryngau cymdeithasol

Bydd yn dechrau am 3 o’r gloch brynhawn Gwener (Ebrill 30) ac yn dod i ben am 11.59 nos Lun (Mai 3)
Logo Abertawe

Pedwerydd chwaraewr tîm pêl-droed Abertawe wedi’i sarhau’n hiliol

Y clwb yn ymateb i negeseuon dderbyniodd Morgan Whittaker yn ystod eu boicot o’r cyfryngau cymdeithasol, ac mae’r heddlu wedi cael gwybod