Mae teulu un o gyn-chwaraewyr hoci Cymru, a oedd wedi lladd ei hun ar ôl dioddef â gorbryder cronig, wedi dweud ei bod hi’n “brydferth tu mewn a thu allan”.

Bu farw Nia Fowler, 39, yn ei chartref yn Ynystawe ar 25 Mai 2021, wythnos ar ôl ymweld â’i meddyg teulu gyda phryderon am ei hiechyd meddwl.

Daeth ei mam o hyd i’w chorff yn ystafell ymolchi ei chartref toc wedi canol dydd ar ôl iddi fethu a mynd i gael cinio yn nhŷ ei rhieni.

Clywodd cwest i’w marwolaeth, a gafodd ei gynnal yn Abertawe ddoe (9 Rhagfyr), fod Nia Fowler, a oedd yn fam i ddau, mewn perthynas “tocsig” gyda thad ei phlant.

“Colli hunanhyder”

Dywedodd ei mam, Jo Fowler: “Dw i erioed wedi adnabod yr un fam a oedd yn caru ei phlant fel Nia.”

Ond dywedodd bod iechyd meddwl ei merch wedi dirywio ar ôl i’w pherthynas gyda’i phartner ddod i ben.

Roedd Nia Fowler yn teimlo bod ei chynbartner yn “ymosod yn rheolaidd ac yn ddi-baid” arni fel rhiant ac y byddai cyfathrebu gydag e’n arwain at gyfnodau o orbryder cronig, clywodd y cwest.

“Collodd lot o hunanhyder a theimlodd bod ei rôl fel mam y plant yn cael ei erydu,” meddai ei mam.

Dywedodd bod ei merch yn byw mewn “ofn parhaol” o ddatblygu canser neu fynd yn sâl, math o orbryder a waethygodd yn ystod y pandemig.

“Eithriadol o fedrus”

Dechreuodd Nia Fowler, a oedd yn flaenwr canol, chwarae hoci gyda Chlwb Hoci Abertawe, cyn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru ymhob categori oedran, gan ennill ei chap rhyngwladol cyntaf gyda’r tîm hŷn yn 2003.

Cafodd ei disgrifio gan ei theulu fel merch “eithriadol o fedrus”, gan ddweud: “Roedd ganddi’r hyder ar y cae yr oedden ni eisiau iddi ei gael yn ei bywyd.”

Cafodd Nia Fowler ei haddysg yn Ysgol Gyfun Ystalyfera a Choleg Castell-nedd Port Talbot, cyn mynd ymlaen i astudio gwyddor chwaraeon yn Sefydliad Prifysgol Cymru, Caerdydd.

Wrth ei gwaith, roedd hi’n nodwyddwr (accupuncturist), ond roedd hi wedi rhoi ei gyrfa ar stop dros y blynyddoedd diwethaf.

Rhoddodd orau i’w swydd fel derbynnydd ychydig wythnosau cyn ei marwolaeth.

Pan aeth i ymweld â’r meddyg teulu ar 18 Mai, cafodd gynnig meddyginiaeth ond dywedodd ei bod hi eisiau trio triniaethau naturiol i ddechrau.

Dywedodd Jo Fowler, a aeth gyda’i merch i’r apwyntiad: “Roedd y meddyg teulu yn glên. Fodd bynnag, cyn hynny, roedd Nia wedi cael apwyntiadau dros y ffôn gan nifer o ddoctoriaid. Doedd dim parhad. Pan gafodd hi adwaith i’w meddyginiaeth ni chafodd ei gyfnewid, a ni wnaeth neb ei gweld.”

“Does yna ddim ffordd y byddai fy merch wedi dewis gadael ei phlant, felly ei meddylfryd oedd ei bod hi ddim yn llawn ymwybodol o’r hyn roedd hi’n ei wneud.”

“Golau disglair”

Clywodd y cwest bod ei chyd-chwaraewyr wedi ei disgrifio fel “golau disglair”.

Dywedodd Sian Fowler, ei chwaer: “Hi oedd y person mwyaf addfwyn. Yr oll oedd hi eisiau oedd ei phlant.”

Dywedodd y darlledwr criced Edward Bevan, tad un o ffrindiau gorau Nia Fowler, a oedd yn y cwest, na welodd “Nia heb wên erioed”.

“Hi oedd y ferch fwyaf hyfryd, gariadus y gallech chi fyth ddymuno ei chyfarfod.”

Dangosodd y post mortem nad oedd Nia Fowler dan ddylanwad cyffuriau nag alcohol pan fuodd farw.

Daeth yr uwch-grwner dros dro Colin Phillips i’r canlyniad mai hunanladdiad drwy grogi oedd yn gyfrifol am ei marwolaeth.

Mae tudalen i godi arian tuag at gefnogaeth i’w phlant wedi codi bron i £11,000 hyd yn hyn.