Mae disgwyl i bob un o’r chwe unigolyn o ranbarth Rygbi Caerdydd a oedd yn hunanynysu yn Ne Affrica, ddychwelyd adref dros y penwythnos.

Yn ôl y rhanbarth, roedd un chwaraewr wedi cyrraedd y Deyrnas Unedig ddoe (dydd Iau, 9 Rhagfyr), gyda thri unigolyn arall hefyd ar eu ffordd adref neithiwr, tra bydd y ddau arall sy’n weddill yn cychwyn ar eu taith heddiw (dydd Gwener, 10 Rhagfyr).

Ar ôl iddyn nhw ddychwelyd i’r Deyrnas Unedig, bydd rhaid iddyn nhw hunanynysu am 10 diwrnod arall mewn gwesty sydd wedi ei gymeradwyo gan y Llywodraeth.

Mae’r 42 aelod arall o’r garfan a deithiodd i Dde Affrica yn hunanynysu mewn gwesty yn Lloegr tan ddydd Llun, 13 Rhagfyr, ar ôl cyrraedd yn ôl o Cape Town wythnos diwethaf.

Mae hynny’n golygu bydd rhaid i Gaerdydd herio Toulouse yfory (dydd Sadwrn, 11 Rhagfyr) gydag aelodau o’r academi a chwaraewyr rhyngwladol wnaeth ddim teithio i Dde Affrica, sef Josh Adams, Tomos Williams, Ellis Jenkins, Uilisi Halaholo, Seb Davies a Dillon Lewis.

‘Cefnogi iechyd a lles’

Cyhoeddodd rhanbarth Rygbi Caerdydd ddatganiad ar eu gwefan neithiwr (nos Iau, 9 Rhagfyr) yn egluro’r trefniadau.

“Gall Rygbi Caerdydd gadarnhau bod gweddill aelodau ein carfan a staff ar fin dychwelyd o Dde Affrica,” meddai’r clwb.

“Er bydd y clwb yn falch o gael yr unigolion yn ôl, mae’n rhaid iddyn nhw nawr ddechrau ail gyfnod 10 diwrnod o ynysu mewn gwesty sydd wedi ei gymeradwyo gan y Llywodraeth, ar ôl bod mewn cwarantîn eisoes am 10 diwrnod mewn cyfleuster Covid-19 yn Ne Affrica.

“Mae Rygbi Caerdydd yn parhau i weithio gyda’i bartneriaid i drafod y mater hwn gydag Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y Deyrnas Unedig (DCMS).

“Mae hon yn sefyllfa sy’n effeithio ar gannoedd o bobl sy’n dychwelyd o wledydd rhestr goch, ac sydd eisoes wedi ynysu am 10 diwrnod yn dilyn prawf Covid-19 positif. Rydyn ni’n ceisio cael eglurhad gan y DCMS ynglŷn â pham bod angen ail gwarantîn ar gyfer yr unigolion yn y sefyllfa unigryw hon.

“Prif flaenoriaeth Rygbi Caerdydd o hyd yw cefnogi iechyd a lles ein pobl a byddwn yn parhau i weithio ochr yn ochr â’r cyrff perthnasol i gyflawni’r canlyniad gorau.”

‘Dim pwysau arnon ni’

Roedd Josh Adams yn pwysleisio’r angen am gefnogaeth gref yn ystod eu gêm gyntaf yng Nghwpan y Pencampwyr eleni.

“Does dim pwysau arnon ni,” meddai.

“Rwy’n siŵr y bydd pawb yn disgwyl i Toulouse guro ni ond yn ein cylch ni, rydyn ni’n dawel hyderus ein bod ni’n gallu achosi problemau iddyn nhw.

“Gobeithio y bydd beth sydd wedi digwydd yn sbarduno ni a’n cefnogwyr. Mewn sefyllfa fel hyn, byddech chi’n disgwyl i un neu ddau ychwanegol ddod i gefnogi ni a gweld wynebau newydd, a thalent yr academi hefyd.

“Fel clwb, byddai cael y gefnogaeth honno ddydd Sadwrn yn golygu cymaint inni fel tîm. Cryfder Drwy Undeb yw ein slogan ni fel clwb, ac rwy’n credu wythnos yma a’r nesaf mwy nag erioed, dyna fydd yr achos.”

Bydd y gic gyntaf rhwng Caerdydd a Toulouse ym Mharc yr Arfau brynhawn yfory (dydd Sadwrn, 11 Rhagfyr) am 13:00, a bydd y gêm yn cael ei dangos yn fyw ar sianel BT Sport 2.

Llun o eisteddle efo'r Llythrennau Cardiff

Y rhan fwyaf o garfan Rygbi Caerdydd wedi gadael De Affrica o’r diwedd

Chwaraewyr am orfod ynysu mewn gwesty yn Lloegr am ddeg diwrnod

Gofidion am iechyd a lles carfan a staff Rygbi Caerdydd

Roedd y garfan i fod i ddychwelyd ar Dachwedd 28, ond wnaeth hynny ddim digwydd oherwydd achosion positif o Covid-19