Mae Russell Martin yn chwilio am ymateb cadarnhaol gan chwaraewyr Abertawe yn dilyn canlyniadau siomedig yn ddiweddar, pan fyddan nhw’n herio Nottingham Forest yn eu gornest nesaf.
Cafodd yr Elyrch eu trechu mewn dwy gêm yn olynol am y tro cyntaf ers penodiad Russell Martin, wrth iddyn nhw golli’n erbyn Reading a Middlesbrough.
Byddan nhw’n herio Nottingham Forest ddydd Sadwrn, gyda’r gic gyntaf am dri o’r gloch.
A’r hyn sy’n ychwanegu sbeis i’r achlysur yw bod cyn-rheolwr yr Elyrch, Steve Cooper, bellach wrth y llyw gyda Forest.
Nifer o wallau unigol oedd y prif reswm dros golli’n erbyn Reading, yn ôl Russell Martin.
Nawr mae’r rheolwr yn awyddus i weld ei dîm yn dod o hyd i’w rhythm unwaith eto mewn pryd ar gyfer ymweliad Nottingham Forest.
“Rydym ni’n edrych i wella cymaint ag y gallwn,” meddai Russell Martin.
“Mae’n or-syml i ddweud bod angen i ni amddiffyn yn well neu roi’r bêl yng nghefn y rhwyd yn well.
“Mae’n mynd i fod yn gêm ddiddorol iawn yfory. Maen nhw wedi bod ar rediad da iawn ers i Steve Cooper gymryd yr awenau.
“Bydd yn rhaid i ni ddechrau ar rediad da maes o law ac nid oes lle gwell i’w wneud hynny na gartref.
“Fe gollon ni yn erbyn Reading oherwydd gwallau unigol, rhywbeth sydd ddim yn digwydd yn aml iawn.
“Roedden ni’n wych yn erbyn Middlesbrough wrth greu cymaint o gyfleoedd oddi cartref, ond mae’n rhaid cymryd y cyfleoedd hynny.
“Yr hyn a’n gadawodd i lawr oedd ildio goliau gwael ar y pen arall.
“Rydym wedi bod yn gweithio ar bethau a gobeithio y byddwn yn ei roi ar waith.”