Bydd gornest bêl-droed arbennig yn cael ei chynnal rhwng sêr cynghrair y gogledd a sêr cynghrair y de ym mis Mai’r flwyddyn nesaf.

Bydd yr enillydd yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Cwpan Rhanbarthau UEFA ar ddiwedd 2022.

Mae’r gystadleuaeth honno am weld chwaraewyr amatur o un rhanbarth o bob gwlad yn Ewrop yn herio’i gilydd, ac yn y gwpan flwyddyn nesaf, bydd un o ranbarthau Cymru mewn grŵp gyda thîm rhanbarthol o Sweden, Gogledd Iwerddon a’r Weriniaeth Tsiec.

Yn y ddwy gêm gartref ac oddi cartref, mae’n rhaid i gynghreiriau Cymru North a Cymru South ddewis carfan o’u chwaraewyr gorau, a rhaid eu bod yn rhai sydd ddim wedi chwarae yn y Cymru Premier nag ar unrhyw lefel broffesiynol yn y gorffennol.

Rheolwr clwb pêl-droed Corwen, Guy Handscombe, fydd yn arwain tîm y gogledd, tra bydd Jonathan Jones, rheolwr clwb pêl-droed Pontypridd, wrth lyw’r criw o’r de.

‘Syniad ffantastig’

Mae cyflwynydd Sgorio yn credu bod cynnal y gemau rhwng goreuon y de a’r gogledd yn beth llesol i gynghreiriau pêl-droed Cymru.

“Dw i’n meddwl bod e’n ffantastig,” meddai Dylan Ebenezer wrth golwg360.

“Mae’r ymateb mae e wedi cael yn syth ar-lein yn dweud y cyfan. Mae’r gystadleuaeth, Cwpan y Rhanbarthau, wedi bod yn mynd ers sawl blwyddyn, ac mae e’n syniad ffantastig.

“Dw i’n synnu eu bod nhw wedi penderfynu cael dau gymal, gartref ac oddi cartref, sy’n grêt.

“Mae unrhyw beth sy’n dod â diddordeb i’r gynghrair, yn enwedig y cynghreiriau is, yn lot o help.”

‘Yr hawl i frolio’

Cynghreiriau’r Cymru North a Cymru South yw’r ail haen ym mhyramid pêl-droed Cymru, un o dan yr uwchgynghrair y Cymru Premier.

Wrth ystyried a oes gwahaniaeth yn y safon rhwng y ddwy gynghrair yn y gogledd a’r de, mae Dylan Ebenezer yn credu eu bod nhw’n weddol gyfartal.

“Dw i ddim yn credu bod yna wahaniaeth,” meddai.

“Dw i’n credu bod yna deimlad o bell bod y gynghrair yn y gogledd yn gryfach na chynghrair y de, ond dw i ddim yn credu bod hynny o reidrwydd yn wir.

“O be dw i wedi ei weld, mae ‘na glybiau cryf yn y de, ac mae’r dewis o chwaraewyr yn enfawr lawr yno pan rydych chi’n meddwl am y dinasoedd sydd yno.

“Dyna beth sy’n grêt am y gemau hyn, rydyn ni wastad yn trio cymharu pethau mewn pêl-droed – pethau sydd fel arfer yn amhosib i’w cymharu.

“Ond mae’n braf bod y cyfle i un tîm gael yr hawl i frolio.”

‘Blas o’r byd proffesiynol’

Bydd chwaraewyr amatur ledled Cymru yn cael cyfle i chwarae ar draws Ewrop yn y gystadleuaeth flwyddyn nesaf, a byddai llawer ohonyn nhw byth wedi dychmygu gallu cynrychioli eu gwlad.

“Mae’n anhygoel iddyn nhw i gael y cyfle,” meddai Dylan Ebenezer.

“Dw i wedi cael y profiad o wylio Cymru C (y tîm cenedlaethol amatur) yn dod at ei gilydd a pharatoi ar gyfer gemau yn erbyn Lloegr.

“Nes eich bod chi’n cyrraedd y gêm a gweld beth mae e’n golygu i’r chwaraewyr, dydych chi ddim yn sylweddoli pa mor fawr yw’r peth.

“Mae’r gemau hynny wedi bod yn gymaint o lwyddiant, ac roedd chwaraewyr yn cael y profiad o fod gyda’i gilydd mewn gwesty ac wrth ymarfer, a chael eu trin fel bois proffesiynol.

“Mae’r holl brofiad yn mynd i fod yn ffantastig iddyn nhw, a byddan nhw’n cael blas o’r byd proffesiynol.”

Mwy o ddiddordeb

Cafodd cynghreiriau Cymru North a South eu sefydlu yn 2019-20, ac mae Dylan Ebenezer yn credu bod hynny wedi cynyddu diddordeb mewn pêl-droed domestig yng Nghymru ers hynny.

“Mae ail-frandio’r pyramid wedi gwneud cymaint o wahaniaeth, a dw i’n credu bod hyn yn gam arall ymlaen o hynny,” meddai.

“Mae effaith y cyfan wedi bod yn drawiadol. Mae mwy o ddiddordeb achos eu bod nhw wedi symleiddio fe felly mae pobol yn deall e nawr.

“Ac mae’r ffaith bod y chwaraewyr hyn yn cael y cyfle i gynrychioli Cymru nawr yn grêt.”