Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd yn “symud yn y cyfeiriad cywir” yn ôl y rheolwr Steve Morison.

Daeth ei sylwadau mewn cynhadledd i’r wasg cyn i’r Adar Gleision herio Birmingham oddi cartref heddiw (dydd Sadwrn, 11 Rhagfyr) gyda’r gic gyntaf am dri o’r gloch.

Mae yno bum pwynt yn gwahaniaethu’r ddau dîm, gyda Birmingham yn 16fed ar 26 pwynt tra bod Caerdydd yn 21ain – un safle uwch ben y gwymp – ar 21 pwynt.

Fe wnaeth y ddau dîm golli eu gemau diwethaf yn y Bencampwriaeth.

“Fe gollon nhw eu gêm ddiwethaf, ond mae pob un gêm yn anodd yn y Bencampwriaeth,” meddai Steve Morison.

“Dydw i ddim yn meddwl y gallwch chi edrych gormod ar ganlyniadau diweddar yn y gynghrair hon, gall unrhyw beth ddigwydd.

“Maen nhw’n dîm da gyda chwaraewyr da iawn, a byddwn ni’n gweithio allan ffordd i geisio eu curo.

“Roedden ni’n dda iawn yn y gêm dros y penwythnos, yn erbyn tîm Sheffield United da iawn.

“Rydych chi’n mynd i ennill rhai ac rydych chi’n mynd i golli rhai, ond rydyn ni’n mynd i’r cyfeiriad cywir.

“Rydyn ni’n sgorio goliau, a dydd Sadwrn oedd y tro cyntaf ers chwarae yn erbyn Stoke i ni ildio mwy nag un gôl.

“Rydyn ni’n gwella drwy’r amser.”