Mae tîm criced Lloegr wedi colli o naw wiced yng ngêm brawf gyntaf cyfres y Lludw yn erbyn Awstralia ar y Gabba yn Brisbane.
Collodd yr ymwelwyr wyth wiced olaf eu hail fatiad am 77 ar bedwerydd bore’r ornest, gan osod nod o ddim ond 19 i Awstralia, ac fe gyrhaeddon nhw’r nod mewn 5.1 o belawdau ar ôl colli wiced Alex Carey yn unig, ac yntau wedi’i ddal gan y wicedwr Jos Buttler oddi ar fowlio Ollie Robinson am naw.
Adelaide yw lleoliad yr ail brawf, a honno’n gêm ddydd a nos a allai fod yn dyngedfennol yn y gyfres wrth i Awstralia geisio adeiladu mantais o 2-0 gyda thair gêm yn weddill.
Mae record wael Lloegr ar y Gabba yn parhau felly, a hwythau heb ennill yno ers 1986 ac wedi cael seithfed crasfa allan o’r naw gêm diwethaf yno.
Ar ôl bowlio Lloegr allan am 147 yn eu batiad cyntaf, manteisiodd Awstralia ar absenoldeb Jimmy Anderson a Stuart Broad, dau fowliwr cyflym mwyaf profiadol Lloegr.
Sgoriodd David Warner 94 wrth agor y batio, tra bod Marnus Labuschagne, batiwr tramor Morgannwg, wedi taro 74 cyn i Travis Head, a gafodd ei ddewis o flaen cyn-fatiwr Morgannwg Usman Khawaja, yn sgorio 152.
Dechreuodd ail fatiad Lloegr yn gryf wrth iddyn nhw gyrraedd 220 am ddwy erbyn diwedd y trydydd diwrnod, ar ôl partneriaeth swmpus o 162 rhwng Dawid Malan (82) a’r capten Joe Root (89), gyda’r troellwr Nathan Lyon yn cipio pedair wiced wrth gyrraedd y garreg filltir o 400 o wicedi mewn gemau prawf dros ei wlad.
Gyda gweddill y batiad yn deilchion, llwyddodd Lloegr o drwch blewyn i osod nod o ryw fath i Awstralia.
Y wicedi olaf
Roedd Root a Malan wrth y llain am bron i bedair awr wrth iddyn nhw geisio gwyrdroi’r sefyllfa i Loegr, ac fe lwyddon nhw i oroesi 49 o belawdau.
Ond roedd blaenoriaeth batiad cyntaf o Awstralia o 278 gam yn rhy bell i weddill y tîm wrth iddyn nhw golli un wiced ar ôl y llall ar ôl i’r bartneriaeth fawr ddod i ben.
Ychwanegodd Malan ddau rediad yn unig at ei sgôr o 80 dros nos, gyda Lyon yn dathlu’r garreg filltir fawr ar ôl aros bron i flwyddyn i gipio’r un wiced oedd ei hangen arno, gyda Labuschagne yn cipio daliad agos i waredu’r batiwr.
Collodd Root ei wiced ar 89 wedyn wrth ergydio’n llac y tu allan i’w ffon agored, gyda’r wicedwr Alex Carey yn cipio’r daliad oddi ar fowlio Cameron Green.
Agorodd y llifddorau wedyn, gydag Ollie Pope yn ei ddilyn o fewn dim o dro wrth dorri ei chweched pelen at Steve Smith yn y slip.
Roedd tynged Lloegr yn nwylo Ben Stokes a Jos Buttler wedyn, ac fe lwyddon nhw i dorri blaenoriaeth Awstralia o 44 i 12 cyn i Pat Cummins waredu Stokes gyda daliad syml i’r gyli Green.
Rhoddodd Buttler ddaliad syml i Carey y tu ôl i’r wiced, gan adael Lloegr â thair wiced yn unig i geisio achub yr ornest.
Ar ôl gorfodi Awstralia i fatio eto, ceisiodd Ollie Robinson sgubo Lyon, ond fe gafodd ei ddal gan Travis Head i ddod â’r fuddugoliaeth gam yn nes i Awstralia.
Cafodd Mark Wood ei fowlio gan Lyon cyn i Chris Woakes roi daliad syml i Carey oddi ar fowlio Green, ac roedd hi’n anochel wedyn y byddai Awstralia’n sgorio’r rhediadau angenrheidiol o fewn dim o dro i gipio’r fuddugoliaeth a’r fantais yn y gyfres.
Gyda Carey yn agor y batio yn absenoldeb David Warner, sydd wedi anafu asen, dim ond y wicedwr gollodd ei wiced wrth roi daliad i Buttler cyn i’r ornest orffen yn siomedig i Loegr.
Dadansoddiad: Alun Rhys Chivers
Mae’n deg dweud bod yr ysgrifen ar y mur i Loegr ymhell cyn y gêm hon, gyda’u record wael yn y Gabba yn ymestyn yn ôl dros rai degawdau. Roedd hi’n dipyn o syndod gweld nad oedd Stuart Broad, un o’u bowlwyr mwyaf profiadol, wedi’i ddewis i chwarae o gofio nad oedd Jimmy Anderson yn holliach ac roedd hi’n amlwg y byddai hynny’n bwnc llosg pe bai Lloegr yn colli.
Roedd Lloegr, felly, yn dechrau’r gyfres heb eu dau fowliwr mwyaf profiadol, sydd â chyfanswm o 1,156 o wicedi rhyngddyn nhw mewn gemau prawf. Gyda’r troellwr llaw chwith Jack Leach yn chwarae, fe allai fod wedi chwarae rhan fwy blaenllaw yn yr ail fatiad pe na bai batwyr Lloegr wedi chwalu. Ond pe bai Broad ac Anderson wedi chwarae, mae’n bosib iawn na fyddai blaenoriaeth Awstralia wedi bod mor swmpus chwaith.
Mae Nathan Lyon yn parhau i fod yn arwr tawel Awstralia, a’i 400fed wiced yn dyst i’w gyfraniad i’r tîm dros nifer o flynyddoedd. Dim ond y troellwr gorau erioed, Shane Warne (708), a Glenn McGrath (563) sydd wedi cipio mwy o wicedi dros y wlad.
Roedd cryn drafod cyn dechrau’r gyfres am y ffaith nad yw Joe Root erioed wedi sgorio canred yn Awstralia, ac mae’r aros hwnnw’n parhau iddo fe. Ond fydd e ddim yn poeni’n ormodol eto, ac yntau bellach wedi curo record Michael Vaughan (1,481 yn 2002) am y nifer fwyaf o rediadau dros Loegr mewn blwyddyn galendr, gyda chyfanswm o 1,544.
Roedd y sylw i gyd cyn y gyfres ar Tim Paine, cyn-gapten Awstralia, oedd wedi camu o’r neilltu yn sgil datgelu manylion am ei fywyd preifat. Ond ar ôl hepgor Anderson a Broad am y prawf cyntaf, fe fydd y sylw i gyd wedi’i hoelio ar Root y capten yn yr ail brawf o dan oleuadau’r Adelaide Oval. Gall unrhyw beth ddigwydd gyda’r bêl binc, ac fe fydd Lloegr yn awyddus i sicrhau nad ydyn nhw’n gadael i Awstralia fynd ar y blaen o 2-0.
O safbwynt chwaraewyr Morgannwg, bydd Marnus Labuschagne yn dyheu am ganred ar ôl ei gyfraniad allweddol o 74 ar ei domen ei hun yn y Gabba, ac mae’n bosib y gwelwn ni Michael Neser, bowliwr cyflym tramor y sir, yn chwarae os na fydd Josh Hazlewood wedi gwella o anaf. O safbwynt Usman Khawaja, mae hi’n rhy gynnar eto i wybod a fydd David Warner yn holliach, ond gallai’r batiwr llaw chwith fod yn un opsiwn pe bai angen llenwi bwlch.
Byddai’r ddau dîm wedi paratoi i chwarae’r prawf olaf yn Perth, ond daeth cadarnhad bellach, o ganlyniad i gyfyngiadau Covid-19, mai yn Hobart yn Tasmania fydd y gêm olaf honno. Dydy’r cae erioed wedi cynnal gêm yng Nghyfres y Lludw, a 2016 oedd y tro diwethaf i Awstralia chwarae gêm brawf yno – ac mae hynny’n dod ag elfen o ansicrwydd i’r cyfan.
Ond un peth sy’n gwbl sicr. Byddai buddugoliaeth yn Adelaide yn golygu bod tair gêm gyfartal yn ddigon i Awstralia gadw’r Lludw, ond byddai colli’n drychineb i Loegr, gan y byddai’n rhaid iddyn nhw ennill y tair gêm olaf i ennill y gyfres. Mae’n poethi eisoes.