Ar ôl bod ddwy gôl i lawr, llwyddodd Caerdydd i daro’n ôl a sicrhau gêm gyfartal yn y munudau olaf yn Birmingham y pnawn yma.
Roedd Birmingham wedi adeiladu eu mantais o ddwy gôl yn yr hanner cyntaf, gyda Troy Deeney yn rhoi’r tîm cartref ar y blaen ar ôl 29 munud. A phan wnaeth Ivan Sunjic ddyblu eu mantais ychydig cyn yr egwyl, roedd pethau’n edrych yn ddu ar yr Adar Gleision.
Ond daeth Kieffer Moore i’r adwy i haneru’r diffyg ar ôl 66 munud, cyn i Mark McGuinness unioni’r sgôr wrth benio’r bêl i’r rhwyd yn amser ychwanegol y gêm.
Ar ôl perfformiad da gan Gaerdydd, roedd y sgôr gyfartal yn gwbl haeddiannol, er yn siom i’r dyrfa dda o 17,840 o gefnogwyr y tîm cartref.