Llwyddodd Casnewydd i daro’n ôl i ennill am yr eildro yr wythnos yma wrth i Dom Telford a Finn Azaz sicrhau buddugoliaeth 2-1 gartref yn erbyn Port Vale.

Roedden nhw 2-0 i lawr cyn llwyddo i guro Sutton nos Fawrth, ac roedd Ben Garrity wedi rhoi Port Vale 1-0 ar y blaen erbyn hanner amser y pnawn yma.

Llwyddodd Dom Telford i unioni’r sgôr gyda’i 15fed gôl y tymor yma ar y 69fed munud, cyn i Finn Azaz ergydio’r gôl fuddugol chwe munud yn hwyrach.

Doedd dim ffordd yn ôl i Port Vale wedyn, yn enwedig ar ôl colli Dan Jones pan gafodd ei anfon oddi ar y cae dri munud cyn y diwedd.