Belgiad neu Albanwr fydd yn cael ei goroni’n bencampwr Pencampwriaeth Snwcer Agored yr Alban yn Llandudno eleni.

Bydd John Higgins yn herio Luca Brecel yn y rownd derfynol yn Venue Cymru heddiw (dydd Sul, Rhagfyr 12), ar ôl i’r gystadleuaeth gael ei symud i ogledd Cymru am nad oedd lleoliad addas yn yr Alban.

Sicrhaodd Higgins le yng nghystadleuaeth ei famwlad ar ôl curo Ronnie O’Sullivan o 6-1 yn y rownd gyn-derfynol – y pumed tro mewn chwe gêm iddo guro’r Sais eleni.

Dydy Higgins erioed wedi ennill y tlws Albanaidd, er ei fod e wedi ennill 31 o dlysau yn ystod ei yrfa, ond dyma’r pedwerydd tro iddo gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth eleni, gan golli bob tro – ym Mhencampwriaeth Agored Lloegr a Gogledd Iwerddon a Phencampwr y Pencampwyr.

Cyrhaeddodd Brecel, 26, rownd derfynol Pencampwriaeth y Deyrnas Unedig, ac fe gurodd e Anthony McGill o 6-1 yn rownd gyn-derfynol Pencampwriaeth Agored yr Alban ar ei ffordd i’r ffeinal.

Bydd yr enillydd yn codi Tlws Stephen Hendry ac yn derbyn £70,000.

Daeth Higgins o fewn trwch blewyn i’w godi yn 2016, cyn colli o 9-4 yn erbyn Marco Fu.