Mae Rob Page, rheolwr tîm pêl-droed Cymru, yn mynnu y bydd Gareth Bale yn holliach ar gyfer gemau ail gyfle Cwpan y Byd.
Dim ond tair gwaith mae’r ymosodwr 32 oed wedi chwarae i Real Madrid y tymor hwn, a dydy e ddim wedi chwarae i’w glwb ers Awst 28 ar ôl dychwelyd o gyfnod ar fenthyg yn Spurs.
Mae e ym mlwyddyn olaf ei gytundeb yn y Bernabeu, ac wedi chwarae mwy o gemau dros ei wlad nag i’w glwb eleni, gyda’i bedair gêm diwethaf yng nghrys Cymru.
Cafodd e anaf i linyn y gâr ym mis Medi ac fe gafodd e anaf arall i’w goes yn dilyn ei ganfed gêm dros Gymru, yn erbyn Belarws fis diwethaf.
Ond mae e wedi bod yn ymarfer gyda Real Madrid cyn y gêm ddarbi fawr yn erbyn Atletico Madrid heddiw (dydd Sul, Rhagfyr 12).
Chwarae i’w glwb ‘ddim yn hanfodol bwysig’
“I fi, dydy hi ddim yn hanfodol bwysig ei fod e’n chwarae ar lefel y clybiau,” meddai Rob Page am Gareth Bale.
“Mae’n helpu, wrth gwrs ei fod e.
“Rydych chi eisiau i chwaraewyr fod yn chwarae pêl-droed ddomestig wrth iddyn nhw ddod i mewn i’r gwersyll.
“Ond rydyn ni wedi cael y sefyllfa hon yn y gorffennol gyda fe ond eto, mae e wedi dod i mewn, wedi perfformio’n wych ac rydyn ni wedi ennill gemau.”
Mae ei sylwadau am Gareth Bale yn wahanol i’w sylwadau am chwaraewyr eraill yn y garfan, ar ôl iddo fe ddweud fis diwehtaf fod angen i Aaron Ramsey, Neco Williams a Joe Rodon fod yn chwarae i’w clybiau’n rheolaidd a’i fod yn eu hannog nhw i sicrhau amser ar y cae i’w clybiau neu chwilio am glwb arall yn ystod ffenest drosglwyddo Ionawr.
Cynghrair y Cenhedloedd
Bydd Cymru’n darganfod ddydd Iau (Rhagfyr 16) pwy fydd eu gwrthwynebwyr yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Ymhlith y gwrthwynebwyr posib mae Lloegr, Ffrainc a’r Eidal, ar ôl i Gymru gael eu dyrchafu i’r haen uchaf.
Ond Cwpan y Byd yw’r flaenoriaeth o hyd, yn ôl Rob Page, wrth i’r tîm ddod o fewn dwy gêm i’w Cwpan Byd cyntaf ers 1958.
Bydd Cymru’n herio Awstria yng Nghaerdydd ar Fawrth 24, gyda’r enillwyr yn wynebu’r Alban neu’r Wcráin bum niwrnod yn ddiweddarach am le yn Qatar.