Mae’r Iseldirwr Max Verstappen wedi atal y Sais Lewis Hamilton rhag cipio wythfed teitl y byd rasio ceir Formula One, a fyddai wedi ei osod ar ei ben ei hun am y nifer fwyaf o deitlau byd y gyrwyr.

Aeth Grand Prix Abu Dhabi i’r lap olaf, gyda Verstappen a Hamilton yn mynd benben am y bencampwriaeth.

Roedd Verstappen o dîm Red Bull yn edrych fel pe bai e allan o’r ras sawl gwaith, ond fe gafodd e gymorth y car diogelwch, oedd ar y trac yn dilyn gwrthdrawiad yn ymwneud â Nicholas Latifi.

Newidiodd ei deiars yn ystod yr oedi, ac ar ôl i’r ceir oedd wedi cael eu lapio gael mynd heibio’r car diogelwch, aeth Verstappen a Hamilton amdani ar y lap olaf, gyda’r Iseldirwr yn ennill.

Y ras

Dechreuodd Hamilton y ras yn gryf ar ôl i Verstappen ddechrau ar flaen y trac.

Fe wnaeth y ras boethi o fewn dim o dro, gyda Hamilton a Verstappen bron â tharo yn erbyn ei gilydd ar ddiwedd y lap cyntaf wrth i Hamilton wthio’i gar yn llydan.

Gyda Verstappen yn cael trafferth rheoli ei deiars, manteisiodd Hamilton ar yr amodau i ennill sawl lap cyn i Verstappen fynd i’r garej ar ôl y trydydd lap ar ddeg i gael datrys y broblem.

Erbyn hynny, Sergio Perez oedd ar y blaen, ac yntau’n aelod o dîm Red Bull gyda Verstappen ac fe lwyddodd i wrthsefyll Hamilton gan dorri saith eiliad oddi ar ei fantais dros ei gyd-aelod.

Bu’n rhaid i’r car ddiogelwch ddod i’r trac wedyn i lanhau’r sbwriel a gafodd ei achosi gan geir Antonio Giovanazzi, ac fe benderfynodd Mercedes y dylai Hamilton aros y tu ôl i’r car diogelwch yn hytrach na dychwelyd i’r garej.

Ond gyda Verstappen yn sylweddoli’r fantais a gâi o newid ei deiars, fe wnaeth e hynny a gadael Hamilton a’i dîm yn pendroni ynghylch beth fyddai wedi bod yn bosib o benderfynu fel arall.