Mae tîm rasio ceir Formula One Mercedes wedi colli tair apêl yn erbyn buddugoliaeth Max Verstappen, gyrrwr Red Bull, yn Grand Prix Abu Dhabi.

Roedd un apêl yn erbyn Verstappen am yrru heibio’r car diogelwch ar y tu mewn, ac un ynghylch y gweithdrefnau a gafodd eu defnyddio wrth ddod â’r car diogelwch i’r trac.

Roedd apêl arall hefyd ynghylch y ffaith mai hyn a hyn o geir oedd wedi cael eu lapio, ac nid pob un, oedd yn cael pasio heibio cyn ail ddechrau’r ras.

Fe ddaw ar ôl i Verstappen atal Hamilton rhag cipio wythfed teitl y byd rasio ceir Formula One, a fyddai wedi ei osod ar ei ben ei hun am y nifer fwyaf o deitlau byd y gyrwyr.

Aeth Grand Prix Abu Dhabi i’r lap olaf, gyda Verstappen a Hamilton yn mynd benben am y bencampwriaeth.

Roedd Verstappen o dîm Red Bull yn edrych fel pe bai e allan o’r ras sawl gwaith, ond fe gafodd e gymorth y car diogelwch, oedd ar y trac yn dilyn gwrthdrawiad yn ymwneud â Nicholas Latifi.

Newidiodd ei deiars yn ystod yr oedi, ac ar ôl i’r ceir oedd wedi cael eu lapio gael mynd heibio’r car diogelwch, aeth Verstappen a Hamilton amdani ar y lap olaf, gyda’r Iseldirwr yn ennill.

Max Verstappen yn atal Lewis Hamilton rhag torri record byd

Roedd y car diogelwch yn gymorth i’r Iseldirwr yn erbyn y Sais, oedd yn mynd am wythfed pencampwriaeth byd yn Formula One