Cymro’n cyfrannu at grasfa i’r Elyrch, gêm gythryblus i Rabbi Matondo a Gareth Bale yn ôl ar y fainc; penwythnos cyffrous arall i’r rhai sydd yn cadw golwg ar y Cymry…

Uwch Gynghrair Lloegr

Roedd dau Gymro Leeds yng nghanol pethau wrth iddynt golli gêm gyffrous yn erbyn Chelsea ddydd Sadwrn. Dan James a enillodd y gic o’r smotyn a roddodd Leeds ar y blaen yn gynnar yn y gêm a Tyler Roberts a greodd gôl hwyr Joe Gelhardt a unionodd bethau yn ddwy gôl yr un. Roedd digon o amser am gôl arall serch hynny ac i Chelsea gipio’r tri phwynt yn yr eiliadau olaf.

Dan James

Rheiny a oedd yr unig funudau a chwaraewyd gan Gymry yn yr Uwch Gynghrair y penwythnos hwn. Ar y fainc yr oedd Fin Stevens i Brentford nos Wener ac felly hefyd Danny Ward i Gaerlŷr a Wayne Hennesey i Burnley ddydd Sul.

Nid oedd Connor Roberts yng ngharfan Burnley o gwbl ac yn dilyn adroddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol nos Sadwrn fod y cefnwr yn wael yn yr ysbyty, cadarnhawyd hynny gan reolwr y clwb, Sean Dyche ddydd Sul, ond dywedodd hefyd ei fod yn gwella.

Nid Covid yw achos gwaeledd Roberts ond dyna a achosodd i gemau Tottenham yn erbyn Rennes nos Iau a Brighton ddydd Sul gael eu gohirio. Dim gemau i Joe Rodon a Ben Davies felly.

Un a gafodd gêm yn Ewrop ganol wythnos a oedd Neco Williams. Dechreuodd y Cymro fel cefnwr de yn erbyn AC Milan yn y San Siro cyn gorffen y gêm mewn safle mwy ymosodol. Creodd argraff unwaith eto yn y fuddugoliaeth o ddwy gôl i un ond yn ôl ar y fainc yr oedd ar gyfer y gêm gynghrair yn erbyn Wolves ddydd Sadwrn.

Y Bencampwriaeth

Tarodd Caerdydd yn ôl i gipio pwynt yn erbyn Birmingham ddydd Sadwrn. Roeddynt ddwy gôl ar ei hôl hi cyn gôl Kieffer Moore eu rhoi ar ben ffordd am gêm gyfartal. Dechreuodd Moore a Rubin Colwill y gêm ond dim ond wedi i Will Vaulks, Mark Harris a Isaak Davies ddod i’r cae fel eilyddion yn gynnar yn yr ail hanner y deffrodd yr Adar Gleision. Yn wir, Harris a greodd gôl Moore a hynny funudau’n unig ar ôl dod i’r cae. Mae’r Cymro ifanc, Jordan James, yn dechrau’n rheolaidd i Birmingham ac roedd yn nhîm y tîm cartref eto ar gyfer y gêm hon.

Nid oedd hi’n brynhawn cystal i Abertawe, yn colli’n drwm gartref yn erbyn Nottingham Forest. Dechreuodd Ben Cabango a Jamie Paterson y gêm i’r Elyrch ond eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Liam Cullen. Serennodd Brennan Johnson i Forest, yn creu un a sgorio un o goliau’r ymwelwyr mewn perfformiad rhagorol arall.

Brennan Johnson

Sgoriodd Tom Bradshaw ei drydedd gôl mewn tair gêm wrth i Millwall golli yn erbyn Peterborough. Rhoddodd y Cymro ei dîm ar y blaen gyda’i bumed gôl o’r tymor a Harry Wilson yw’r unig Gymro sydd wedi sgorio mwy nag ef yn nwy gynghrair uchaf Lloegr y tymor hwn bellach. Yn anffodus i Bradshaw, nid oedd ei gôl yn ddigon gan iddynt golli o ddwy gôl i un yn erbyn Y Posh a’u gôl-geidwad, Dave Cornell.

Ni wnaeth Wilson ychwanegu at ei chwe gôl ef yn erbyn Luton y penwythnos hwn ond fe wnaeth greu gôl arall i brif sgoriwr y Bencampwriaeth, Aleksander Mitrovic, wrth i Fulham aros ar frig y tabl gyda gêm gyfartal gôl yr un. Nid oedd Tom Lockyer yng ngharfan Luton.

Roedd buddugoliaeth i Tom Lawrence gyda Derby yn erbyn Blackpool, un gôl i ddim y sgôr gyda Chris Maxwell rhwng y pyst i’r gwrthwynebwyr. Enillodd Preston eu gêm gyntaf o dan reolaeth Ryan Lowe, o ddwy gôl i un yn erbyn Barnsley. Nid oedd Ched Evans yn y garfan ond chwaraeodd Andrew Hughes y gêm gyfan i’w reolwr newydd.

Chwaraeodd tri Chymro yng ngêm gyfartal ddi sgôr Stoke gyda Middlesbrough; Adam Davies yn y gôl, Morgan Fox yn yr amddiffyn a Joe Allen yng nghanol cae. Ar y fainc yr oedd James Chester i’r Potters ac felly hefyd Neil Taylor i Boro.

Cafodd Huddersfield a Sorba Thomas bwynt gartref yn erbyn Coventry a gwylio o’r fainc a wnaeth Chris Mepham wrth i Bournemouth golli braidd yn annisgwyl yn erbyn Blackburn.

Cynghreiriau is

Sgoriodd Nathan Broadhead gôl dda wrth i Sunderland guro Plymouth yn yr Adran Gyntaf ddydd Sadwrn. Rhwydodd y Cymro gyda sodliad deheuig i ddyblu mantais ei dîm yn gynnar yn y gêm a hynny ar ôl rhwydo ddwywaith yn erbyn Morecambe ganol wythnos hefyd. Dechreuodd James Wilson a Ryan Broom i Plymouth ac ymddangosodd Luke Jephcott oddi ar y fainc ac er iddynt dynnu un gôl yn ôl, daliodd y Cathod Du eu gafael ar y tri phwynt.

Nathan Broadhead

Roedd ymddangosiad prin o’r dechrau i Gwion Edwards wrth i Wigan gael gêm gyfartal gôl yr un yn erbyn Ipswich. Symudodd Edwards o Ipswich i Wigan dros yr haf gyda Lee Evans yn mynd i’r cyfeiriad arall ac fe ddechreuodd yntau’r gêm hon yn erbyn ei gyn-glwb hefyd. Nid oedd Wes Burns yn y garfan.

Achubodd Joe Jacobson bwynt i Wycombe yn erbyn Wimbledon, yr amddiffynnwr yn sgorio cic o’r smotyn hwyr hwyr i unioni’r sgôr yn ddwy yr un. Chwaraeodd Sam Vokes hefyd ond ar y fainc yr oedd Adam Przybek.

Cafodd Portsmouth fuddugoliaeth o ddwy gôl i ddim yn erbyn Morecambe. Dechreuodd Kieron Freeman i Pompey a daeth Ellis Harrison oddi ar y fainc ond nid oedd Joe Morrell na Louis Thompson yn y garfan.

Chwaraeodd Declan John yng ngholled Bolton o gôl i ddim yn Accrington. Dychwelodd Jordan Williams i’r tîm yn dilyn cyfnod allan gydag anaf hefyd ond mae Josh Sheehan, Gethin Jones a Lloyd Isgrove yn parhau i fod ar y rhestr anafiadau.

Colli o ddwy gôl i ddim a wnaeth Crewe yn erbyn Sheffield Wednesday gyda Dave Richards, Billy Sass-Davies, Zac Williams a Tom Lowery i gyd yn dechrau.

Chwaraeodd Regan Poole y naw deg munud wrth i Lincoln gael gêm gyfartal ddwy gôl yr un yn Cheltenham.

Yn yr Ail Adran, colli fu hanes Jonny Williams gyda Swindon a Tom King gyda Salford.

Yr Alban a thu hwnt

Dechreuodd Ryan Hedges a Marley Watkins fuddugoliaeth Aberdeen o gôl i ddim dros St Johnstone yn Uwch Gynghrair yr Alban ddydd Sadwrn.

Parhaodd dychweliad graddol Christian Doidge i dîm Hibs gyda dau ymddangosiad oddi ar y fainc yr wythnos hon. Chwaraeodd yr ail hanner yn erbyn Livingston ganol wythnos cyn dod i’r cael fel eilydd hwyr yn y gêm gyfartal yn erbyn St Mirren ddydd Sadwrn.

Un arall sydd yn dychwelyd wedi anaf yw Dylan Levitt, er na chwaraeodd i Dundee United yn y golled yn erbyn Livingston ddydd Sadwrn, roedd chwaraewr canol cae Cymru’n ôl ar y fainc am y tro cyntaf ers tro.

Daeth Ben Woodburn oddi ar y fainc am y chwarter awr olaf wrth i Hearts golli o ddwy gôl i ddim yn erbyn Rangers ddydd Sul.

Ym Mhencampwriaeth yr Alban, roedd Owain Fôn Williams yn rhan o gêm gyffrous iawn, yn ildio tair mewn gêm gyfartal rhwng Dunfermline a Queen of the South.

Cafodd Rabbi Matondo gêm lawn digwyddiadau i Cercle Brugge ym mhrif adran Gwlad Belg nos Sadwrn. Sgoriodd y Cymro’r gôl fuddugol yn erbyn STVV gyda chwarter awr yn weddill cyn derbyn cerdyn coch yn eiliadau olaf y gêm! Gyda phedair gôl mewn pedair gêm, bydd yn hynod siomedig o fethu’r gemau nesaf gyda gwaharddiad.

Cafodd Venezia bwynt da iawn yn erbyn Juventus yn Serie A gyda gêm gyfartal gôl yr un nos Sadwrn. Chwaraeodd Ethan Ampadu ychydig dros awr i Venezia ond nid oedd Aaron Ramsey yng ngharfan Juve.

Gôl yr un a oedd y sgôr rhwng St. Pauli a Dusseldorf yn y 2.Bundesliga hefyd. Chwaraeodd James Lawrence y gêm gyfan i St. Pauli, sydd yn aros ar frig y tabl.

Dychwelodd Gareth Bale i garfan Real Madrid nos Sul am y tro cyntaf ers dioddef anaf yn chwarae i Gymru yn erbyn Belarws y mis diwethaf. Dechrau ar y fainc a wnaeth yn y gêm ddarbi fawr yn erbyn Atletico.