Mae’r Belgiad Luca Brecel wedi ennill ei tlws detholion cyntaf ar ôl curo’r Albanwr John Higgins ym Mhencampwriaeth Snwcer Agored yr Alban yn Llandudno.
Cafodd y gystadleuaeth ei symud i Venue Cymru am resymau cytundebol ac ar ôl iddi ddod i’r amlwg nad oedd lle addas ar fyr rybudd yn yr Alban.
Aeth Brecel, 26, ar y blaen ar ôl ennill wyth o’r deg ffrâm gyntaf yn yr ornest 17 ffrâm, gyda rhediadau o 96 a 79 cyn sgorio dros gant i fynd ar y blaen o chwe ffrâm.
Tarodd Higgins yn ôl wedyn wrth ennill tair ffrâm yn olynol i’w gwneud hi’n 8-5, gyda rhediad o 73 yn y deuddegfed ffrâm.
Ond enillodd Brecel y ffrâm dyngedfennol – a Thlws Stephen Hendry a £70,000 – wrth i’r Albanwr golli ffeinal am y pedwerydd tro y tymor hwn.
Dim ond dwy gystadleuaeth arall mae Brecel wedi’u hennill fel chwaraewr proffesiynol, ac fe gollodd e yn erbyn Zhao Xintong yn rownd derfyno Pencampwriaeth y Deyrnas Unedig yr wythnos ddiwethaf.