Mae Connor Roberts, cefnwr timau pêl-droed Burnley a Chymru, wedi cael myndd adref o’r ysbyty wrth iddo wella o haint.

Fe wnaeth Roberts, 26, ei ymddangosiad cyntaf yn yr Uwch Gynghrair i Burnley yn Newcastle United ddydd Sadwrn (Rhagfyr 4).

Doedd e ddim yn rhan o’r gêm gyfartal yn erbyn West Ham United ddydd Sul (Rhagfyr 12) oherwydd yr hyn gafodd ei ddisgrifio gan Sean Dyche, rheolwr Burnley, fel “byg drwg iawn wnaeth droi yn haint”.

Ond fe gadarnhaodd Dyche heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 13) fod Roberts allan o’r ysbyty.

Roedd cyn chwaraewr Abertawe wedi treulio’r penwythnos yn yr ysbyty i sicrhau bod yr haint – nad yw’n gysylltiedig â Covid-19 – wedi clirio.

Ymunodd Roberts â Burnley o Abertawe ym mis Awst ar ôl gwneud 152 ymddangosiad i’r clwb Cymreig.

Cafodd ei anafu pan symudodd i Turf Moor ac roedd angen llawdriniaeth arno yn dilyn Ewro 2020.

Daeth ymlaen fel eilydd yn Newcastle i wneud ei ail ymddangosiad i Burnley.

Mae Roberts wedi chwarae tair gwaith dros Gymru y tymor hwn.

Dywedodd Dyche cyn y gêm yn erbyn West Ham fod Roberts wedi colli “nifer o ddyddiau” o ymarferion oherwydd salwch, gan ychwanegu nad oedd yn gysylltiedig â Covid-19.