Mae S4C wedi cyhoeddi y byddan nhw’n dangos gêm gyntaf Caerdydd yng Nghwpan FA Lloegr eleni.

Bydd yr Adar Gleision yn croesawu Preston North End yn y drydedd rownd ddydd Sul, Ionawr 9.

Bydd pencampwyr y gystadleuaeth yn 1927 yn gobeithio am rediad mwy llwyddiannus y tro hwn, gyda dim ond dwy fuddugoliaeth yn y gwpan ers 2016.

Mae tîm Steve Morison yn ugeinfed yn y Bencampwriaeth ar hyn o bryd, dim ond triphwynt uwchlaw safleoedd y gwymp.

Abertawe v Southampton

Mae BBC Cymru hefyd yn dangos gêm Abertawe yn y drydedd rownd yn erbyn Southampton am 17:30 ar ddydd Sadwrn, Ionawr 8.

Mae’r Elyrch, a gafodd eu curo gan Manchester City yn y bumed rownd y llynedd, yn eistedd yn yr 16eg safle yn y Bencampwriaeth ar hyn o bryd.

Dydyn nhw heb chwarae Southampton mewn gêm gystadleuol ers 2018, pan oedd y ddau glwb yn brwydro tan y diwrnod olaf i geisio aros yn yr Uwchgynghrair.

Y tymor hwn, BBC ac ITV yw’r ddau ddarlledwr sydd â’r hawliau teledu i ddangos gemau Cwpan FA Lloegr, sy’n golygu y bydd pob gêm fyw ar gael i’w gwylio yn rhad ac am ddim.

Dyma’r tro cyntaf ers 1990 i’r ddwy sianel hynny ddangos gemau byw o’r gwpan, sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 150 eleni, a bydd S4C, sy’n darlledu gemau’r gwpan yn fyw yn achlysurol, yn gwneud hynny eto yn y flwyddyn newydd.

Does dim cadarnhad eto a fydd sylwebaeth Saesneg ar gyfer y gêm rhwng Caerdydd a Preston.