Mae’r hwylwraig o Gymru, Hannah Mills, wedi cyhoeddi ei bod hi’n ymddeol o’r gamp yn y Gemau Olympaidd.
Daeth Mills, sy’n 33 oed, yn gyntaf yn nosbarth 470 y merched yn y Gemau yn Tokyo eleni, a drwy wneud hynny, hi oedd yr hwylwraig Olympaidd mwyaf llwyddiannus erioed.
Fe gipiodd y ferch o Gaerdydd y fedal aur yn yr un gystadleuaeth yng Ngemau Rio de Janeiro 2016, ac ennill arian yn y gystadleuaeth yng Ngemau Llundain 2012.
Cafodd hi hefyd ei henwi gan gorff World Sailing yn hwylwraig y flwyddyn yn 2016 a 2020, ar y cyd gyda’i phartneriaid yn y Gemau Olympaidd y blynyddoedd hynny, Saskia Clark ac Eilidh McIntyre.
Mae dau bencampwr arall o’r Gemau yn Tokyo, Giles Scott a Stuart Bithell, hefyd wedi cyhoeddi eu hymddeoliad o hwylio Olympaidd.
‘Amser perffaith i gamu o’r neilltu’
Yn ôl Hannah Mills, bydd hi nawr yn “edrych ar opsiynau eraill” wedi ymddeol o’r Gemau Olympaidd.
“Roedd yn benderfyniad anodd, ond eto’n un hawdd,” meddai.
“Beth oedd yn ei wneud yn anodd oedd pa mor anhygoel yw’r Gemau Olympaidd. Does dim byd arall ar y ddaear yn cymharu â nhw.
“Mae dosbarth y 470 yn mynd yn gymysg [o ran rhywedd] yng Ngemau Paris 2024.
“I fi, yn nhermau fy ngyrfa, dyma’r amser perffaith i gamu o’r neilltu ac edrych ar opsiynau eraill.”
‘Cael eu colli’n fawr iawn’
Roedd rheolwr Perfformiad Olympaidd y Gymdeithas Hwylio Frenhinol, Mark Robinson, yn dweud bod y tri sy’n ymddeol wedi cael “effaith anferth ar ein camp.”
“Mae eu cyflawniadau yn siarad drostyn nhw eu hunain,” meddai.
“Maen nhw wedi ysbrydoli pobol ifanc ddirifedi i ddilyn yn eu holion traed.
“Rydw i’n teimlo’n falch iawn fy mod wedi arwain tîm o athletwyr mor wych, a bydd y rheiny sy’n ymddeol yn cael eu colli’n fawr iawn.”