Mae Gerwyn Price o Markham yn sir Caerffili yn dweud ei fod yn hyderus y gall e ennill Pencampwriaeth Dartiau’r Byd y PDC am yr ail flwyddyn yn olynol.
Mae’r Cymro 36 oed yn dechrau ei ymgyrch yn yr ail rownd yfory (dydd Mercher, Rhagfyr 15), yn erbyn un ai Ritchie Edhouse neu Lihao Wen.
Byddai Price yn ymuno â grŵp dethol o chwaraewyr pe bai’n amddiffyn ei deitl – camp sydd ond wedi’i chyflawni gan Phil Taylor, Adrian Lewis a Gary Anderson.
Yn ôl Price, mae bod yn rhif un yn y byd yn rhoi mantais iddo dros ei gystadleuwyr.
“Byddai’n golygu’r byd i’w hennill, nid yn unig gyda’r dorf ond fy nheulu a ffrindiau yno i ddathlu,” meddai.
“Mae (bod yn rhif un yn y byd) bendant yn fy sbarduno i ac yn rhoi hyder i mi.
“Rwy’n edrych ymlaen at y twrnament hwn a gobeithio y gallaf ennill a bod yn bencampwr byd lluosog ac ennill y bencampwriaeth ddwy flynedd yn olynol.”
Yn y cyfamser, mae ei wrthwynebydd posib yn y drydedd rownd, Fallon Sherrock, yn dweud ei bod hi’n edrych ymlaen at y posibilrwydd o herio pencampwr y byd.
Yn 2019, a hithau’n 27 oed, hi oedd y ddynes gyntaf i ennill gêm ym Mhencampwriaeth y Byd y PDC wrth iddi gyrraedd rownd y 32 olaf.
Wnaeth hi ddim cymhwyso y llynedd, ond mae hi’n gobeithio taro’n ôl eleni ar ôl cyrraedd rownd derfynol y Meistri Nordaidd a rownd wyth ola’r Gamp Lawn.
Ond bydd yn rhaid iddi guro Steve Beaton yn y rownd gyntaf a Kim Huybrechts yn yr ail cyn bod modd dechrau meddwl am chwarae yn erbyn y Cymro.
“Dw i wir eisiau chwarae yn erbyn pencampwr y byd,” meddai.
“Dw i wedi cael y fraint o chwarae yn erbyn pencampwr y byd Lakeside (Wayne Warren) eleni, felly byddwn i wrth fy modd yn wynebu pencampwr byd y PDC i weld sut alla i ei herio fe.”
Jonny Clayton
Un arall sy’n cystadlu am y bencampwriaeth y byd eleni yw’r Cymro Jonny Clayton o Bontyberem, sydd wedi bod yn chwarae’n wych eleni.
Ond mae Price yn benderfynol o sicrhau bod y tlws yn mynd yn ôl i dde Cymru yn hytrach na’r gorllewin, lle mae Clayton yn byw o hyd.
“Gobeithio y gallaf sicrhau bod y tlws yn dychwelyd i Gymru, nid i Bontyberem, ond yn ôl i Markham am 12 mis arall,” meddai.
“Ches i ddim mynd â’r tlws ar daith y llynedd, felly eleni gobeithio y gallaf ei gael yn ôl yn fy nwylo, yn ôl yng Nghymru ac yn ôl yn Markham i’w ddangos i bawb.”