Mae gêm bêl-droed Abertawe oddi cartref yn QPR ddydd Sadwrn (Rhagfyr 18) wedi cael ei gohirio am fod nifer o achosion o Covid-19 yng ngharfan QPR.

Rhoddodd QPR na fydden nhw’n gallu bwrw ymlaen â’r gêm yn Stadiwm y Kiyan Prince Foundation.

Yn unol â’r rheolau, bydd y Gynghrair Bêl-droed yn cynnal adolygiad o’r penderfyniad i ohirio’r gêm, a bydd cadarnhad maes o law o unrhyw ddyddiad newydd ar gyfer y gêm.

Dywed Clwb Pêl-droed Abertawe y bydd eu cefnogwyr yn cael ad-daliad os ydyn nhw wedi prynu tocyn.

Mae cwmni bysus National Express hefyd wedi cytuno i roi ad-daliad i unrhyw gefnogwyr oedd wedi prynu tocyn i deithio gyda nhw i Lundain ar gyfer y gêm.