Mae Michael Neser, bowliwr cyflym Morgannwg, wedi’i hepgor gan dîm criced Awstralia ar gyfer yr ail brawf yng Nghyfres y Lludw yn erbyn Lloegr yn Adelaide heno (nos Fercher, Rhagfyr 15).

Roedd disgwyl iddo fe ddod i mewn i’r tîm yn lle Josh Hazlewood, sydd wedi anafu ei asen, ond Jhye Richardson sydd wedi’i ddewis yn ei le.

Mae’n golygu bod ei rwystredigaeth yn parhau, wrth iddo fe gael ei ddewis yn y garfan unwaith eto ond colli allan ar yr unfed awr ar ddeg.

Ymhlith y batwyr, mae David Warner yn holliach i agor y batio ond mae’n debygol y bydd Lloegr yn manteisio ar ei wendid yn erbyn bowlio byr o dan y llifoleuadau.

Mae Awstralia ar y blaen o 1-0 yn y gyfres ar ôl curo Lloegr o naw wiced yn Brisbane, a byddai colled arall yn golygu bod Lloegr golled yn unig i ffwrdd o golli’r gyfres.

Ond dydy’r ystadegau ddim yn ffafrio’r Saeson, sydd yn wynebu tîm Awstralia sydd erioed wedi colli mewn gemau prawf o dan y llifoleuadau, gyda phum buddugoliaeth allan o bump yn Adelaide.

Ac mewn ymgais i daro’n ôl, mae Lloegr wedi dewis Jimmy Anderson a Stuart Broad ar gyfer yr ail brawf, ar ôl iddyn nhw hepgor y ddau ar gyfer y prawf cyntaf, gydag Anderson bellach wedi gwella o anaf.

Carfan Lloegr

J Root (capten), J Anderson, S Broad, R Burns, J Buttler, Haseeb Hameed, J Leach, D Malan, O Pope, O Robinson, B Stokes, C Woakes.

Tîm Awstralia

M Harris, D Warner, M Labuschagne, S Smith, T Head, C Green, A Carey, P Cummins (capten), J Richardson, M Starc, N Lyon.