Mae Jonny Clayton wedi dweud wrth golwg360 y byddai wrth ei fodd yn cael dychwelyd i’w waith yn blastrwr gyda Chyngor Sir Gâr gyda thlws Pencampwriaeth Byd Dartiau’r PDC.
Wrth i’r gystadleuaeth ddechrau yn yr Alexandra Palace yn Llundain heddiw (dydd Mercher, Rhagfyr 15), bydd y Cymro Cymraeg o Bontyberem yn gorfod aros i glywed pwy fydd ei wrthwynebydd yn yr ail rownd ddydd Sul (Rhagfyr 19).
Bydd e’n chwarae yn erbyn enillydd y gêm rhwng y Gwyddel Keane Barry a Royden Lam o Hong Kong, sy’n herio’i gilydd yn y rownd gyntaf.
Er iddo ennill yr Uwch Gynghrair a’r Meistri – dwy o’r cystadlaethau mwyaf – eleni, mae’n dal i weithio i’r Cyngor sydd, meddai, wedi bod yn hwyluso’i ymdrechion i gyfuno’i waith plastro gyda’i ddartiau.
Ond pe bai’n dod yn bencampwr y byd, ai dyma fyddai’r amser iddo roi’r gorau i blastro a chanolbwyntio’n llawn amser ar fyd y campau?
“Efallai fydda i’n mynd ’nôl i’r Cyngor gyda’r trophy a dweud ‘Co’r tro diwetha’ welwch chi fi!’,” meddai, â’i dafod yn ei foch.
“Ond na, dwlen i fynd ’nôl i’r Cyngor ar ôl y Nadolig gyda’r darian fawr, y byddai hwnna’n ffantastig ac anhygoel.
“Gobeithio ga’ i wneud e.”
Gyda seibiant o ychydig ddiwrnodau cyn ei gêm gyntaf, bydd cyfle iddo fe ymarfer cyn wynebu ei gêm gyntaf yn y gystadleuaeth, tra bydd Gerwyn Price yn herio naill ai Richie Edhouse o Loegr neu Lihao Wen o Tsieina yn yr ail rownd heno (nos Fercher, Rhagfyr 15).
“Ond i fod yn onest, fi’r person mwya’ lazy gwrddet ti byth yn ymarfer!” mae’n cyfaddef.
“Ond rwy’ wedi bod, dros y pythefnos diwetha’ yma, yn gwneud mwy o fwrw dwblau a’r ‘out shots‘.
“I fod yn onest, fi wedi dodi bach o amser mewn i’r ymarfer!”
‘Ar dân ar y stâj’?
Cymro arall, Gerwyn Price o Markham yn sir Caerffili, enillodd y gystadleuaeth y llynedd, ac mae e a Jonny Clayton ymhlith y ffefrynnau i godi’r tlws eto eleni.
Pa mor hyderus yw Clayton, tybed, mai dyna fydd yn digwydd yn 2022?
“I fod yn onest, gobeithio ’ny – ddyweda i ddim ‘Na’ i hwnna o gwbl!” meddai.
“Dim ond bo fi’n chwarae’r gêm rwy’n gallu chwarae, mae siawns dda gyda fi.
“So, fi yn gobeithio bod Jonny Clayton yn mynd i fod ar dân ar y stâj!
“Fi’n credu, rhyngddo fi a Gerwyn, ni wedi ennill chwech o’r pencampwriaethau mwya’ yn y byd dartiau.
“So, i Gymru ac i fi a Gerwyn, ni’n ruling the roost ar y foment.”