David Lloyd, y chwaraewr amryddawn 29 oed o Wrecsam, yw capten newydd Clwb Criced Morgannwg.
Mae’n olynu Chris Cooke, sydd wedi camu o’r neilltu ar ôl tair blynedd wrth y llyw.
Bydd Kiran Carlson, y batiwr o Gaerdydd, yn parhau’n gapten ar gyfer cystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London, wrth i Forgannwg amddiffyn eu teitl yn 2022.
Carlson fydd yr is-gapten yn y ddwy gystadleuaeth arall, y Bencampwriaeth a’r gystadleuaeth 20 pelawd, y Vitality Blast.
Cafodd David Lloyd ei benodi’n is-gapten yn 2019, ac roedd e wrth y llyw am gyfnod pan gafodd Chris Cooke ei anafu, gan arwain y tîm i dair buddugoliaeth a phedair gêm gyfartal yn y Bencampwriaeth.
Fe yw’r Cymro cyntaf ers Mark Wallace yn 2014 i gael ei benodi’n gapten y clwb, a’r gogleddwr cyntaf ers Wilf Wooller yn 1947, ac fe dderbyniodd ei gap sirol gan Matthew Maynard, y prif hyfforddwr o’r gogledd, yng Nghasnewydd yn 2019.
Daeth ei gêm gyntaf i’r sir yn 2012, ac mae e wedi chwarae 196 o weithiau ar draws yr holl gystadlaethau, gan sgorio 6,116 o rediadau a chipio 105 o wicedi.
‘Anrhydedd’
“Dw i’n teimlo anrhydedd eithriadol o gael y cyfle i fod yn gapten ar Forgannwg,” meddai David Lloyd.
“Mae’n amlwg yn golygu cymaint i mi o fod wedi fy magu’n gefnogwr, a chodi drwy rengoedd Cymru wedyn ac yna Academi Morgannwg.
“Mi wnes i fwynhau’r profiad o fod yn gapten yn 2019 yn fawr iawn, a dw i wedi dysgu llawer gan Chris Cooke, a fydd gobeithio yn fy rhoi i mewn sefyllfa dda ar gyfer yr heriau sydd i ddod.
“Roedd yn wych i’r clwb gael ennill Cwpan Royal London y llynedd a rŵan, y nod ydi gwthio er mwyn gwella yn y fformatau eraill a dod â mwy o dlysau i Gymru.”
‘Dewis amlwg’
“Mae Chris wedi gwneud gwaith gwych fel capten dros y blynyddoedd diwethaf ac mae e wedi arwain y tîm gyda chryn dipyn o sgiliau ac ymroddiad, ond mae e wedi penderfynu mai nawr yw’r amser iawn iddo fe gamu o’r neilltu,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.
“Mae David wedi bod yn is-gapten ers nifer o flynyddoedd a phan gafodd e’r cyfle i fod yn gapten, fe wnaeth e waith gwych felly fe oedd y dewis amlwg i olynu Chris.
“Mae David yn uchel ei barch gan bawb yn yr ystafell newid, ac mae’r ffordd mae e wedi camu i fyny i agor y batio wedi dangos ei allu i arwain.
“Mae e’n chwaraewr meddylgar, pwyllog a chanddo ymennydd gwych ar gyfer criced, ac rydym yn credu y bydd e’n ffynnu fel capten.
“Rydyn ni hefyd yn credu y bydd e’n gweithio’n dda iawn mewn partneriaeth â Kiran Carlson, sy’n camu i fyny i fod yn is-gapten ar ôl iddo fe ddangos ei allu a’i ddoniau fel arweinydd yn y fuddugoliaeth yng Nghwpan Royal London.”