Mae Gerwyn Price o Markham yn sir Caerffili wedi crafu buddugoliaeth yn erbyn y Sais Ritchie Edhouse yn ail rownd Pencampwriaeth Byd Dartiau’r PDC.
Doedd y sgôr o 3-1 ddim yn adlewyrchiad teg o berfformiad siomedig y Cymro yn ei gêm gyntaf yn y gystadleuaeth eleni wrth iddo geisio amddiffyn ei deitl.
Aeth Edhouse ar y blaen ar ôl ennill y set gyntaf, a bu’n rhaid i Price frwydro’n galed wedyn am y fuddugoliaeth.
Roedd y dorf yn ei erbyn o’r eiliad y cerddodd e allan i’r llwyfan, ac fe wnaeth Edhouse fanteisio ar hynny ar ôl ennill yr hawl i herio Price gyda buddugoliaeth o 3-2 dros Peter Hudson yn y rownd gyntaf.
Collodd Price y set gyntaf o 3-0, ac roedd osgo ei gorff yn ddigon negyddol wrth adael y llwyfan.
Ond cipiodd e’r ail set yn y gêm olaf, ac fe daflodd e 130 i ennill y drydedd set ar ôl dechrau dangos ei ddoniau tua’r diwedd.
Roedd e ar y blaen o 2-0 yn y bedwaredd set er mwyn taflu i ennill yr ornest, ac fe enillodd e chweched gêm o’r bron i selio’r fuddugoliaeth.
Fydd e ddim yn chwarae eto tan ar ôl y Nadolig, ac fe allai herio Fallon Sherrock yn y rownd nesaf.
‘Siom’
“Dw i ddim yn siŵr am fraw, ond fe wnes i siomi fy hun yn y set gyntaf, gan fethu dyblau ac fe wnes i roi fy hun o dan bwysau,” meddai.
“Fe wnaeth y ddau dafliad o 130 ryw fath o ennill y gêm i fi, a dw i’n credu fy mod i wedi chwarae’n eitha’ da yn y cyfnodau olaf ar ôl llithro’n gynharach.”
Dywedodd fod yr ymateb tanllyd gafodd e gan y dorf wedi ei sbarduno yn y pen draw.
“Maen nhw’n sicr yn ôl!” meddai.
“Dw i’n gobeithio bod y rheolau [Covid] hyn yn newid dros yr wythnosau nesaf ac y galla i fynd i ennill hon eto.
“Roedd yn dda heddiw a chyn belled â bod y chwaraewr arall yn dal yn y gêm, dyna sut mae’r dorf yn mynd i fod.
“Mae angen i fi fod yn fwy clinigol, yn fwy bygythiol a chymryd fy nghyfleoedd, a’u cau nhw allan o’r gêm.”