Bydd Cymru yn darganfod pwy fydd eu gwrthwynebwyr yn eu grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd heddiw (dydd Iau, Rhagfyr 16), gyda’r enwau’n dod allan o’r het am 5 o’r gloch.

Bydd pob tîm yn chwarae pedair gêm grŵp rhwng Mehefin 2 a 14, a’r ddwy gêm olaf rhwng Medi 22 a 27.

Y drefn yw fod pedwar enillydd grwpiau Cynghrair A (y brif adran) yn chwarae yn y rowndiau terfynol ym mis Mehefin 2023.

Mae’r timau sy’n ennill pob grŵp yn y dair adran is yn ennill dyrchafiad, gyda rhan fwya’r timau sy’n gorffen ar y gwaelod yn wynebu’r gwymp.

Cafodd Cymru eu dyrchafu i Gynghrair A yn yr ymgyrch ddiwethaf, felly gall dynion Rob Page ddisgwyl wynebu rhai o dimau gorau’r byd.

Mae pedwar tîm ym mhob grŵp – un o bob pot – a byddan nhw’n chwarae ei gilydd gartref ac oddi cartref.

Bydd Cymru mewn grŵp gyda thri o’r timau hyn: Ffrainc, Sbaen, yr Eidal Gwlad Belg, Portiwgal, yr Iseldiroedd, Denmarc, yr Almaen, Lloegr, Gwlad Pwyl, y Swistir, neu Croatia.

Mae tebygolrwydd o 1/4 y bydd Cymru mewn grŵp gyda Lloegr.

Y Cynghreiriau

Cynghrair A

  • Pot 1: Ffrainc, Sbaen, yr Eidal, Gwlad Belg
  • Pot 2: Portiwgal, yr Iseldiroedd, Denmarc, yr Almaen
  • Pot 3: Lloegr, Gwlad Pwyl, y Swistir, Croatia
  • Pot 4: Cymru, Awstria, Y Weriniaeth Tsiec, Hwngari

Cynghrair B

  • Pot 1: Wcráin, Sweden, Bosnia-Herzegovina, Gwlad yr Iâ
  • Pot 2: Y Ffindir, Norwy, yr Alban, Rwsia
  • Pot 3: Israel, Romania, Serbia, Gweriniaeth Iwerddon
  • Pot 4: Slofenia, Montenegro, Albania, Armenia

Cynghrair C

  • Pot 1: Twrci, Slofacia, Bwlgaria, Gogledd Iwerddon
  • Pot 2: Gwlad Groeg, Belarws, Luxembourg, Gogledd Macedonia
  • Pot 3: Lithwania, Georgia, Azerbaijan, Kosovo
  • Pot 4: Gibraltar, Ynysoedd Faroe, i’w gadarnhau, i’w gadarnhau*

Cynghrair D

  • Pot 1: Liechtenstein, Malta, i’w gadarnhau, i’w gadarnhau*
  • Pot 2: Latfia, San Marino, Andorra

A oes llefydd gemau ail-gyfle ar gael?

Dydy UEFA ddim wedi penderfynu a fydd llefydd ar gael ar gyfer gemau ail-gyfle y tro hwn.

Mae disgwyl cyhoeddiad erbyn mis Mehefin, pan fydd fformat cymhwyso Ewro 2024 wedi’i gwblhau.