Roedd dau chwaraewr tramor tîm criced yn flaenllaw ar ddiwrnod cynta’r ail brawf yng Nghyfres y Lludw rhwng Awstralia a Lloegr yn Adelaide.
Roedd Marnus Labuschagne heb fod allan ar 95 erbyn diwedd y dydd, yn fuan ar ôl iddo fe gael ei ollwng gan y wicedwr Jos Buttler.
Roedd yn ddiwrnod cofiadwy i’r bowliwr cyflym Michael Neser hefyd, wrth iddo dderbyn ei gap gwyrdd rhyngwladol ar ôl cael ei ddewis yn absenoldeb y capten Pat Cummins, sy’n hunanynysu ar ôl dod i gysylltiad ag achos posib o Covid-19 mewn bwyty.
Steve Smith sy’n arwain Awstralia, a hynny am y tro cyntaf ers iddo fe gamu o’r neilltu yn sgil y sgandal papur tywod i addasu cyflwr y bêl.
Doedd Neser ddim yn disgwyl chwarae ar ôl i Jhye Richardson gael ei alw i’r tîm yn lle Josh Hazlewood, cyn cael gwybod am sefyllfa Cummins.
Manylion
Mae Awstralia ar y blaen o 1-0 yn y gyfres ar ôl ennill o naw wiced yn y Gabba yn Brisbane, ac fe wnaethon nhw gosbi Lloegr ymhellach gan golli dim ond dwy wiced ar y diwrnod cyntaf, gan orffen ar 221 am ddwy.
Roedd yn ddiwrnod i’w anghofio i Buttler, oedd wedi gollwng dau ddaliad digon syml er eu bod nhw’n chwarae’r gêm hon o dan y llifoleuadau. Daeth y cyntaf pan oedd Labuschagne ar 21.
Er nad oedd Labuschagne ar ei orau, fe lwyddodd e a David Warner i sgorio 95 yr un wrth i fowlwyr Lloegr fethu â manteisio ar yr amodau ffafriol a nifer o gyfleoedd digon anodd i’w gwaredu nhw.
Collodd Warner ei wiced pan ergydiodd e’n wyllt oddi ar belen gan Ben Stokes a chanfod dwylo diogel Stuart Broad yn safle’r pwynt.
Marcus Harris oedd yr unig fatiwr arall i golli ei wiced, wrth iddo fe gael ei ddal gan Buttler oddi ar fowlio Broad am dri.