Bydd Cymru yn wynebu Gwlad Belg, Yr Iseldiroedd a Gwlad Pwyl yng ngrŵp A4 Cynghrair y Cenhedloedd flwyddyn nesaf.

Daeth yr enwau allan o’r het ym mhencadlys UEFA yn y Swistir am 5yh heddiw (dydd Iau, 16 Rhagfyr).

Dyrchafiad

Cafodd dynion Rob Page eu dyrchafu i Gynghrair A yn yr ymgyrch ddiwethaf yn 2020-21, sy’n golygu eu bod nhw ymhlith timau gorau Ewrop y tro hwn.

Yn wahanol i’r arfer, bydd holl gemau’r gystadleuaeth yn cael eu cynnal cyn y twrnament mawr nesaf – Cwpan y Byd 2022 – sy’n cael ei gynnal rhwng mis Tachwedd a Rhagfyr flwyddyn nesaf.

Bydd pob tîm yn chwarae pedair gêm ar ddechrau mis Mehefin ac yna’r ddwy gêm olaf ar ddiwedd mis Medi, gyda threfn y gemau i gael eu cadarnhau yfory (dydd Gwener, 17 Rhagfyr).

Pe bai Cymru mor ffodus ag ennill eu grŵp, byddan nhw’n mynd drwyddo i’r rowndiau terfynol, sy’n cael eu chwarae ym mis Mehefin 2023.

Ond pe bai nhw’n anlwcus ac yn gorffen ar waelod eu grŵp, byddan nhw’n dychwelyd i Gynghrair B pan fydd y gystadleuaeth yn dychwelyd yn 2024.

Ffrainc yw pencampwyr presennol y gystadleuaeth, gan ennill eleni.

Gemau ail-gyfle

Dydy UEFA ddim wedi penderfynu a fydd llefydd ar gael ar gyfer gemau ail-gyfle cymhwyso i’r Ewros drwy’r gystadleuaeth y tro hwn.

Ar ôl ennill eu grŵp yng Nghynghrair B yn yr ymgyrch ddiwethaf, llwyddodd Cymru i sicrhau gêm ail-gyfle ar gyfer Cwpan y Byd 2022.

Fel mae’n digwydd, doedden nhw ddim angen hynny yn y pen draw, ar ôl iddyn nhw orffen yn ail yn eu grŵp rhagbrofol ym mis Tachwedd.

Mae disgwyl cyhoeddiad erbyn mis Mehefin ynglŷn â’r gemau ail-gyfle, pan fydd fformat gemau rhagbrofol Ewro 2024 wedi’i gwblhau.

Brysia wella Bale

Oddi ar y cae, mae Gareth Bale yn un o bedwar chwaraewr Real Madrid sydd wedi profi’n bositif am Covid-19 heddiw (dydd Iau, 16 Rhagfyr).

Oherwydd ffitrwydd, roedd Bale yn absennol yn y gêm gyfartal yn erbyn Gwlad Belg ym mis Tachwedd, a chwaraeodd dim ond hanner y fuddugoliaeth yn erbyn Belarws yr un wythnos.

Bydd cefnogwyr y Wal Goch yn gobeithio y bydd capten Cymru, a’r sêr eraill i gyd, yn holliach ar gyfer y gemau ail-gyfle a Chynghrair y Cenhedloedd, wrth iddi argoeli’n flwyddyn gyffrous i’r tîm pêl-droed cenedlaethol.