Gornest gyffrous rhwng Caernarfon ac Aberystwyth yw uchafbwynt gemau’r Cymru Premier heno (nos Wener, 17 Rhagfyr).
Mae’r ddau dîm yn hanner isaf y gynghrair, sy’n torri’n ddau yng nghanol mis Chwefror wedi i bawb chwarae ei gilydd ddwywaith.
Bydd Aber yn teithio i’r Oval yn nhref y Cofis gan obeithio am ganlyniad da, gan eu bod nhw yn arnofio uwchben y safleoedd disgyn fel mae’n sefyll.
Ar hyn o bryd, mae’r Seasiders ar yr un nifer o bwyntiau â Hwlffordd, ond mae gwahaniaeth goliau yn eu cadw nhw allan o’r coch.
Mae’r Caneris ar y llaw arall mewn brwydr arall i geisio cael eu hunain allan o’r hanner gwaelod i’r chwech uchaf.
Gyda gêm wrth law ar ôl i’r ornest yn erbyn y Fflint gael ei gohirio ddwywaith yr wythnos ddiwethaf, mae dynion Huw Griffiths ddau bwynt o dan eu gelynion o Wynedd, y Bala.
Yn y gêm rhwng y ddau yn gynharach yn y tymor, cipiodd y Caneris eu buddugoliaeth gyntaf oddi cartref, gyda gôl gynnar gan y Cofi Messi, Darren Thomas, yn gwahaniaethu’r ddau.
Mae’r ddau dîm wedi casglu colledion yn yr wythnosau diwethaf, ond un peth sy’n sicr yw dim ond un ohonyn nhw sy’n gallu colli heno (19:45 yn yr Oval, Caernarfon), a byddai buddugoliaeth i unrhyw glwb felly yn chwip o anrheg Nadolig cynnar.
Uchafbwyntiau eraill
Y Drenewydd v Y Fflint
Hefyd dros y penwythnos, bydd y tîm sy’n ail yn y gynghrair, Y Fflint, yn herio’r tîm sy’n drydydd, Y Drenewydd.
Mae’r ddau dîm ar yr un nifer o bwyntiau, ond mae’r Fflint wedi chwarae un gêm yn llai.
Wedi trafferthion i’w cae’r wythnos diwethaf yn dilyn tywydd mawr, bydd y dynion o’r gogledd ddwyrain yn diolch mai oddi cartref y byddan nhw’n chwarae brynhawn Sadwrn, 18 Rhagfyr (14:30 ym Mharc Latham, Y Drenewydd).
Y Fflint oedd yn fuddugol dros y Drenewydd yn gynharach y tymor hwn, gydag un o brif sgorwyr y gynghrair, Michael Wilde, yn sgorio a chael cerdyn coch yn y gêm honno.
Y Seintiau Newydd v Pen-y-bont
Uchafbwynt arall dros y penwythnos yw’r gêm rhwng Y Seintiau Newydd a Phen-y-bont.
Dydy’r Seintiau, sydd ar dop y gynghrair, heb golli adref ers mis Ebrill eleni, ac mae eu rhediad yn y gynghrair y tymor hwn wedi bod yn arwrol, gan golli dim ond un gêm allan o 16, a hynny yn erbyn Aberystwyth fis Tachwedd.
Mae’r Bont ar rediad rhagorol eu hunain, gan ennill chwech o’u hwyth gêm ddiwethaf yn y gynghrair, a nhw sydd wedi colli’r lleiaf o gemau ac eithrio’r tîm o Groesoswallt eleni.
Fe gafodd y ddau dîm gêm gyfartal yn erbyn ei gilydd yn gynharach yn y tymor, gyda phrif sgoriwr y gynghrair, Declan McManus, yn gorfod unioni’r sgôr yn hwyr yn y gêm i’r Seintiau.
Ond byddai’n dipyn o gamp i ddynion Rhys Griffiths dynnu mwy na phwynt oddi ar y Seintiau nos Sadwrn, 18 Rhagfyr (17:15 yn Neuadd y Parc, Croesoswallt).
Mae’r ornest honno yn fyw ar S4C, wrth i griw Sgorio ddarlledu o dros y ffin.