Mae gemau rhanbarthau’r Gweilch a’r Scarlets yng Nghwpan y Pencampwyr dros y penwythnos wedi eu gohirio oherwydd Covid-19.

Roedd disgwyl i’r Gweilch herio Racing 92 ym Mharis brynhawn dydd Sadwrn (18 Rhagfyr), ond mae achosion o Covid-19 wedi taro eu carfan, a bydd y tîm cartref yn cael buddugoliaeth awtomatig 28-0.

Yn ddiweddarach, daeth i’r amlwg y byddai saith gêm rhwng timau Prydain a Ffrainc yng Nghwpan y Pencampwyr a Chwpan Her Ewrop yn cael eu canslo oherwydd bod rheolau teithio rhwng y ddwy wlad yn tynhau yfory.

Bydd pob gêm rhwng timau o’r ddwy wlad, sy’n cael eu cynnal naill ochr i’r sianel, yn cael eu gohirio tan rywbryd eto felly.

Mae hynny’n cynnwys gêm y Scarlets gartref yn erbyn Bordeaux, ond ar hyn o bryd, mae’r gêm rhwng y Dreigiau a Lyon heno (nos Wener, 17 Rhagfyr) yn mynd yn ei blaen.

Bydd trefnwyr y cystadlaethau, bwrdd Rygbi Clwb Proffesiynol Ewrop, yn “rhoi diweddariad pellach pan mae hynny’n ymarferol.”

Yn anlwcus i’r Gweilch, mae’n edrych yn debyg na fydd eu gêm nhw’n cael ei haildrefnu, gan eu bod nhw wedi gohirio cyn y gemau eraill ac oherwydd eu bod nhw wedi cadarnhau achosion o Covid-19.

Dydy gemau sydd ddim yn cynnwys tîm o Ffrainc a Phrydain, gan gynnwys Caerdydd yn erbyn yr Harlecwiniaid brynhawn yfory, ddim yn cael eu heffeithio.

Rheolau Ffrainc

O ddydd Sadwrn, bydd pawb sy’n teithio o’r Deyrnas Unedig i Ffrainc, ac sydd ddim yn Ffrancwyr na’n byw yno, yn gorfod rhoi “rheswm gafaelgar” dros gael mynediad i’r wlad.

Bydd rhaid i bob teithiwr hefyd ddangos canlyniad prawf negatif ac ynysu am o leiaf dau ddiwrnod ar ben hynny, wrth i achosion o Omicron waethygu ym Mhrydain.