Fe fydd Ffrainc yn cyflwyno cyfyngiadau llymach i deithwyr o wledydd Prydain o ganlyniad i’r amrywiolyn Omicron.

Yn ôl y llywodraeth, bydd y cyfyngiadau’n “llymach o lawer” na’r hyn sydd ar waith eisoes, gyda’r cyfnod ar gyfer cael profion llif unffordd yn gostwng o 48 awr i 24 awr.

Dim ond trigolion a dinasyddion Ffrainc a’u teuluoedd fydd yn cael teithio’n weddol rydd i’r wlad, tra bydd cyfyngiadau llymach ar dwristiaid a phobol sy’n teithio am resymau busnes a gwaith os nad oes ganddyn nhw genedligrwydd Ffrengig neu Ewropeaidd.

Bydd yn rhaid i bobol gofrestru ar ap i gael mynediad i’r wlad, a bydd yn rhaid iddyn nhw hunanynysu am saith diwrnod a chael eu goruchwylio gan luoedd diogelwch.

Ond bydd modd gostwng y cyfnod o saith diwrnod i ddeuddydd gyda phrawf negyddol yn Ffrainc.

Mae disgwyl i’r mesurau newydd hyn ddod i rym dros y penwythnos.

Mae Ysgrifennydd Trafnidiaeth San Steffan, Grant Shapps, wedi cadarnhau nad yw’r rheolau newydd yn berthnasol i yrwyr loriau.

“Ergyd drom”

Mae’r rheolau newydd yn “ergyd drom”, meddai cwmnïau teithio.

Dywedodd prif weithredwr cymdeithas deithio Abta, Mark Tanzer, fod marchnad chwaraeon y gaeaf a’r farchnad sy’n dibynnu ar bobol yn teithio wedi i ysgolion gau yn “arbennig o agored i niwed”.

“Rhaid i’r Llywodraeth gyflwyno pecyn cymorth os ydyn ni am osgoi cwmnïau’n methu a cholli swyddi,” meddai Mark Tanzer.

“Dydi’r sector teithio a thwristiaeth heb gael fawr ddim cyfle i wneud incwm ers dechrau 2020, a nawr maen nhw’n wynebu ton arall o bobol yn canslo.”

Dywedodd llefarydd a ran Brittany Ferries fod y mesurau newydd ar y ffiniau’n ymddangos yn “ddiangen” gan fod amrywiolyn Omicron yn “lledaenu drwy boblogaeth Ffrainc fel un y Deyrnas Unedig”.