Mae “gwersi wedi eu dysgu” yn dilyn helynt cinio ysgol ym Mhenygroes, yn ôl uwch swyddogion addysg Cyngor Gwynedd.

Ym mis Tachwedd, daeth y ffrae i’r amlwg yn Ysgol Dyffryn Nantlle ar ôl i’r pennaeth Neil Foden ysgrifennu at rieni yn bygwth gwrthod rhoi cinio i ddisgyblion oedd â dyled i’w henw.

Ond yn sgil sylw digynsail yn y wasg, gan gynnwys beirniadaeth gan y pêl-droediwr Marcus Rashford, fe honnodd Foden fod yr awdurdod lleol wedi cefnu arno ar ôl iddo bwysleisio bod ei lythyr yn seiliedig ar gyfarwyddyd y cyngor.

Dyledion

Yn ei lythyr, roedd yn dweud bod “llond llaw o ddisgyblion wedi casglu dyledion o fwy na £1,800”, gan ychwanegu ei fod “yn sori” bod rhaid iddyn nhw gymryd y camau hynny, a bod “yn rhaid gwneud rhywbeth”.

Yn dilyn yr ymateb, fe wnaeth Cyngor Gwynedd ymddiheuro am “y boen a’r pryder” roedd geiriad y llythyr wedi ei achosi.

Fe aethon nhw yn eu blaenau i ddweud bod eu cyngor i’r ysgol wedi creu “diffyg eglurder”, ac y bydden nhw’n edrych eto ar yr arweiniad oedd yn cael ei roi i ysgolion.

Ond er eu bod nhw’n croesawu cynlluniau’r Llywodraeth i gyflwyno cinio ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd, fe siaradodd Pwyllgor Craffu ar Addysg ac Economi’r Cyngor ymhellach am y ffrae mewn cyfarfod diweddar.

“Rwyf am gynnig sicrwydd na fydd pryd o fwyd yn cael ei wrthod i’r un disgybl yn y sir, beth bynnag fo’r amgylchiadau,” meddai’r Cynghorydd Cemlyn Williams, yr aelod cabinet dros addysg, yn y cyfarfod hwnnw.

“Er gwaethaf hyn, rhaid i ni gydnabod bod dyled prydau ysgol yn broblem ar draws y sir.”

Ychwanegodd fod llywodraethwyr Ysgol Dyffryn Nantlle wedi tynnu sylw i ddiffygion yn y system dalu “aneffeithiol”, ac yn dilyn hynny, fe wnaeth y Cyngor gadarnhau y byddan nhw’n ei adolygu.

Roedd cwynion hefyd nad oedd unrhyw negeseuon wedi eu gyrru at rieni yn eu hysbysu am unrhyw ddyledion, nad oedd hi’n bosib rhoi arian yn y cyfrif, a bod lleiafswm o £10 wrth drosglwyddo arian i’r cyfrif.

Achosi ‘gofid’

Ychwanegodd y Cynghorydd Alwyn Gruffydd yn y cyfarfod fod yr adroddiad a gafodd ei lunio yn brin ei wybodaeth am sefyllfa unigryw’r ysgol.

“Mae rhywun yn poeni am y gofid mae’r broses gyfan wedi’i achosi i rieni, disgyblion a staff,” meddai.

“Mae honiadau wedi cael eu gwneud gan y pennaeth fod yr awdurdod wedi ei ddefnyddio fel bwch dihangol.

“Dychmygwch hynny, bod pennaeth wedi cyhuddo’r adran addysg o’r fath beth. Mae ‘na gwestiynau difrifol y mae angen eu hateb yma.”

Fe ymatebodd Cemlyn Williams i hynny gan ddweud eu bod nhw “wedi ymddiheuro” ac na fyddai’r un sefyllfa “yn digwydd eto.”

“Ein prif ffocws nawr yw sicrhau ein bod ni yn y sefyllfa orau bosibl wrth symud ymlaen,” ychwanegodd Garem Jackson, y Pennaeth Addysg.

“Wrth gwrs, fel unrhyw broses a digwyddiad, rydyn ni’n dysgu gwersi wrth symud ymlaen ac rydyn ni wedi gwneud.

“Fe wnaethon ni gyfathrebu ar unwaith â phob un o’n hysgolion i’w hatgoffa nad yw un plentyn yn mynd heb ei fwydo yn ysgolion Gwynedd…. Rydyn ni wedi cynnal trafodaeth agored ac aeddfed gyda’n holl benaethiaid ar y mater ac wedi derbyn ymatebion cadarnhaol ac maen nhw wedi ymrwymo heb eithriad.”

Cyngor Gwynedd yn ymddiheuro yn dilyn ffrae cinio ysgol ym Mhenygroes

Llythyr wedi ei ddosbarthu yn bygwth peidio bwydo plant os na fyddai eu rhieni yn talu dyledion cinio ysgol

Bygwth peidio rhoi cinio ysgol i blant sydd â dyledion o fwy na cheiniog

Cafodd y penderfyniad ei wneud oherwydd diffyg yng nghyllideb cinio’r ysgol, meddai pennaeth Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes, mewn llythyr at rieni