Mae Plaid Cymru yn Rhondda Cynon Taf wedi condemnio cau banciau’r stryd fawr.
Daw hyn yn dilyn rhybudd o gynnig a gafodd ei gyflwyno gan gynghorwyr Llafur yng nghyfarfod llawn y Cyngor neithiwr, mae Plaid Cymru wedi annog y Cyngor i fabwysiadu geiriau cryfach i fynd i’r afael â’r mater.
Daeth y newyddion fod Banc Barclays am gau eu cangen yn Aberdâr yn ergyd fawr i’r dref.
Mae hyn ar ôl i NatWest, HSBC a’r Banc Cydweithredol gau eu drysau eisoes, gan adael preswylwyr lleol i orfod teithio milltiroedd i Ferthyr Tudful neu Bontypridd i wneud eu busnes bancio.
Cytunodd cynghorwyr Rhondda Cynon Taf i gyd y dylai arweinydd y Cyngor gysylltu â banc Barclays ar frys i drafod y mater.
Yn ôl y cynghorwyr, mae buddion cymdeithasol o gael bancio’n lleol ac mae hyn yn rhan hollbwysig o gynllunio cyfleusterau bancio ar gyfer y gymuned yn y dyfodol.
Cyflwynodd cynghorwyr Plaid Cymru welliant i ofyn i Brif Weithredwr y Cyngor a’r swyddog allweddol i ddod ag adroddiad i’r Cyngor yn amlinellu unrhyw opsiwn sydd ar gael i newid bancwyr cyfredol y Cyngor o Fanc Barclays i ddewis arall.
Cyflwynodd cynghorwyr Plaid Cymru welliant hefyd i nodi cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am ddatblygu a lansio Banc Cymunedol newydd i Gymru sydd â’i bencadlys yng Nghymru.
Gofynnodd cynghorwyr Plaid Cymru i aelodau’r Cyngor gefnogi galwad ar i Lywodraeth Cymru gyflymu sefydlu a chyflwyno Banc Cambria sy’n anelu at agor canghennau’r Stryd Fawr mewn trefi ledled Cymru.
‘Siomedig’
“Mae’n destun siom na chefnogodd y Blaid Lafur welliant Plaid Cymru oherwydd byddai wedi gwneud i Barclays eistedd i fyny a gwrando, yn enwedig ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi newidiadau arfaethedig mewn Bancio yng Nghymru’r wythnos hon a ddisgrifiwyd fel ‘chwyldro Bancio’,” meddai’r Cynghorydd Pauline Jarman o Blaid Cymru ac arweinydd yr wrthblaid.
“Os yw Barclays yn cau cangen Aberdâr, yna mae Plaid Cymru wedi cynnig bod y Cyngor yn caffael yr adeilad ac yn gwahodd y rhai sydd â diddordeb mewn cyflwyno banc cymunedol i Gymru gyda changhennau ar y Stryd Fawr, i agor eu Banc Stryd Fawr gyntaf yn Aberdâr.
“Byddai hyn yn dod ag adeilad mor amlwg yng nghanol y dref yn ôl i ddefnydd er budd y cyhoedd.”