Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud eu bod nhw’n cefnogi ymchwiliad annibynnol i Covid-19 yng Nghymru.
Daw hyn yn dilyn penderfyniad Jane Dodds, arweinydd y blaid, i gefnogi cynnig a gafodd ei gyflwyno yn galw am ymchwiliad annibynnol i Covid-19 yng Nghymru.
Roedd hi eisoes wedi cefnogi rhesymeg Llywodraeth Cymru dros gynnal ymchwiliad ledled y Deyrnas Unedig gyfan, ar ôl cael sicrwydd y byddai Cymru’n cael sylw teilwng.
Ond mae hi bellach wedi datgan nad oes ganddi ffydd erbyn hyn yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig i roi ystyriaeth lawn i’r Senedd a Chymru yn yr adroddiad.
Dywed hefyd nad yw pryderon bod datganoli’n cael ei danseilio wedi cael sylw a’i bod yn bwysig, os yw Cymru am ddal pwerau dros iechyd, ei bod yn cymryd cyfrifoldeb llawn amdanyn nhw.
‘Dysgu gwersi ar gyfer y dyfodol’
“Ar ddechrau tymor y Senedd hon, pleidleisiais gyda’r Llywodraeth ar ôl cael fy narbwyllo gan y Prif Weinidog y byddai ymchwiliad gan y DU yn ystyried y cyd-destun yng Nghymru yn ddigonol ac yn drylwyr,” meddai Jane Dodds.
“Fodd bynnag, ar ôl cyfarfod â’r grŵp Teuluoedd mewn Profedigaeth dros yr haf, rwyf wedi cael fy symud gan eu tystiolaethau a oedd yn esbonio pam fod ymchwiliad sy’n benodol i Gymru mor bwysig iddynt, ac yn credu ei bod yn bwysig bod lleisiau’r teuluoedd hynny yma yng Nghymru yn cael amlygrwydd yn y broses.
“Er fy mod yn dal i ymddiried bod y Prif Weinidog yn parhau i wthio Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau bod Ymchwiliad y Deyrnas Unedig yn ddigonol ac yn ystyried penderfyniadau a wneir yng Nghymru yn drylwyr, nid oes gennyf ffydd bellach y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhoi ystyriaeth briodol a theg i’r Senedd a Chymru.
“Yn ogystal, o ystyried bod datganoli a chysylltiadau rhynglywodraethol yn gweithredu i raddau helaeth ar sail ymddiriedaeth a ffydd dda, nid wyf yn credu bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi rhoi unrhyw arwydd eu bod yn bwriadu gweithredu ar y sail honno.
“Yr wyf hefyd yn pryderu fwyfwy am ymdrechion Llywodraeth Geidwadol y DU i danseilio’r setliad datganoli, a chredaf mai dim ond ymchwiliad i Gymru a fydd yn ystyried goblygiadau penderfyniadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar Gymru mewn modd cytbwys.”
Triniaeth ar y ffin
“Tra’n cefnogi ymchwiliad Covid-19 yng Nghymru, byddaf yn parhau i frwydro am sicrwydd bod gofal iechyd trawsffiniol ar ranbarthau’r ffin hefyd yn cael ei graffu’n ddigonol,” meddai Jane Dodds wedyn.
“Gyda nifer fawr o gleifion o ardaloedd fel Powys a Sir Fynwy yn cael eu trin yn Lloegr, mae’n hanfodol ein bod yn cael atebion iddynt hefyd.
“Ni welaf ychwaith unrhyw reswm pam na ellir hefyd archwilio polisïau Llywodraeth y DU a effeithiodd ar Gymru, megis penderfyniadau dros y ffin, mewn ymchwiliad yn y DU yn sôn am ei effaith ar Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
“Nid gweld bai yw pwrpas Ymchwiliad Cymru annibynnol, ond dysgu gwersi ar gyfer y dyfodol.”