Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi wfftio galwadau am wneud Dydd Gŵyl Dewi yn Ŵyl Banc, gan honni bod gormod o bobol yn croesi’r ffin rhwng Cymru a Lloegr i weithio er mwyn i’r cynllun lwyddo.
Anfonodd Cyngor Gwynedd lythyr at weinidogion ym mis Hydref yn galw am roi terfyn ar yr “embaras” fod llywodraethau’r Alban a Gogledd Iwerddon yn gallu pennu diwrnodau cenedlaethol, ond nad oes gan Lywodraeth Cymru yr un hawl.
Fe fu Dydd San Andreas yn ddiwrnod cenedlaethol yn yr Alban ers pasio deddfwriaeth yn 2007, ond fe gaiff ei ddathlu yn ôl disgresiwn cyflogwyr, tra bod Dydd San Padrig yn Ŵyl Banc yn Iwerddon.
Cyflwynodd y Cynghorydd Elwyn Edwards gynnig a gafodd gefnogaeth unfrydol cynghorwyr Gwynedd i sicrhau sefyllfa debyg yng Nghymru
Gwrthwynebiad
Ond mewn llythyr, nododd Paul Scully, Gweinidog Busnesau Bach San Steffan ei bryderon am wneud Dydd Gŵyl Dewi yn Ŵyl Banc.
“Tra ein bod ni’n gwerthfawrogi bod pobol Cymru eisiau dathlu eu nawddsant, mae mwy o bobol yn gweithio ar draws y ffin rhwng Lloegr a Chymru nag ar draws y ffin rhwng Lloegr a’r Alban,” meddai.
“Gallai’r integreiddio hwn sydd gam yn nes achosi mwy o anghyfleustra i fusnesau.
“Pe bai gennym wyliau banc ar wahân yn Lloegr a Chymru, mae’r effaith ar weithwyr a busnesau ill dau yn anodd i’w darogan.”
Gan gydnabod y gallai gŵyl banc ychwanegol “fod o fudd i rai cymunedau a sectorau”, ychwanegodd Paul Scully fod asesiad o’r diwrnod ychwanegol i ffwrdd o’r gwaith ar gyfer y Jiwbilî yn 2012 wedi costio £1.2bn i’r economi.
Wrth nodi bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig “yn parhau i ymrwymo i gydweithio â’r holl weinyddiaethau datganoledig i sicrhau bod sefydliadau’r Deyrnas Unedig yn cydweithio fel un Deyrnas Unedig”, dywedodd nad oes gan y Llywodraeth yn San Steffan “unrhyw gynlluniau presennol” i newid “y trefniadau sefydledig sydd wedi’u derbyn” ar gyfer gwyliau banc yng Nghymru.
Beirniadu’r ymateb
Ond mae ymateb Paul Scully wedi cael ei feirniadu gan aelod o gabinet Cyngor Gwynedd, sy’n cyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o “fethu â deall datganoli na Chymru”.
“Dw i wedi fy siomi gan yr ateb hwn, a dw i’n gwybod y bydd pobol a phlant ledled Gwynedd yn teimlo’r un fath,” meddai’r Cynghorydd Nia Jeffreys o Blaid Cymru, sydd â chyfrifoldeb am Gefnogaeth Gorfforaethol yn y Cyngor.
“Mae Dydd Gŵyl Dewi yn ddyddiad pwysig yn ein calendr a’n calonnau yng Nghymru, a dylem allu ei ddathlu fel gwyliau cenedlaethol.
“Mae’r ymateb yn dangos diffyg dealltwriaeth o ddatganoli a Chymru ond yn drist iawn, dyma rydym wedi dod i’w ddisgwyl gan Lywodraeth Boris Johnson yn y Deyrnas Unedig.”
Gwyliau banc
Mae gan Gymru a Lloegr saith gŵyl banc, tra bod gan yr Alban naw a Gogledd Iwerddon ddeg.
Dydy Cymru ddim wedi cael pwerau tebyg i’r gwledydd Celtaidd eraill, sy’n gofyn am addasu deddfwriaeth 1971, gan sawl llywodraeth, a hynny er i’r Cynulliad Cenedlaethol ar y pryd bleidleisio o blaid diwrnod cenedlaethol yn 2000.
Yn 2014, roedd adroddiadau bod Carwyn Jones, y prif weinidog ar y pryd, wedi anfon llythyr at Ysgrifennydd Cymru yn ceisio pwerau deddfu i wneud diwrnod cenedlaethol Cymru’n ŵyl banc, ond cafodd ei wfftio.
“Mae pob setliad datganoli wedi’i ddatblygu yn erbyn cefnlen o hanes gwahanol, a systemau economaidd, cymdeithasol, diwylliannol a chyfreithiol gwahanol,” meddai Paul Scully.
“Bydd ffactorau gwahanol yn gofyn am ystyriaethau gwahanol.
“Mae’n bosib na fydd yr hyn sy’n gweithio mewn un lle yn gweithio yn rhywle arall, a ddylem ni ddim cymryd yn ganiataol mai datganoli yw’r ateb cywirt oherwydd fod y mater wedi’i ddatganoli yn rhywle arall.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Rydym wedi gofyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig dro ar ôl tro i ddatganoli’r pwerau i ddynodi Dydd Gŵyl Dewi yn Ŵyl Banc i’r Senedd, ac mae’n destun siom fod y ceisiadau hyn yn parhau i gael eu gwrthod,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
Mae deiseb gan Elfed Wyn ap Elwyn ar y we wedi denu dros 6,000 o lofnodion yn cefnogi gwneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc.
Mae angen 10,000 o lofnodion, serch hynny, i sicrhau ymateb swyddogol neu 100,000 i sicrhau ystyriaeth ar gyfer dadl seneddol.