Mae cael mynediad i gartrefi gofal i bobol hŷn “yn gymhleth ac yn llwybr anodd ei ddilyn”, meddai adroddiad newydd.

Yn ôl Archwilio Cymru, mae’r trefniadau presennol ar gyfer comisiynu lleoliadau mewn cartrefi gofal i bobol hŷn yn “methu â mynd i’r afael â rhai problemau sy’n bod ers amser maith”.

Mae heriau penodol yn ymwneud â threfniadau cyllido sy’n rhy gymhleth ac yn achosi rhaniadau rhwng partneriaid, meddai eu hadroddiad.

Ar draws Cymru, mae costau comisiynu cartrefi gofal ar gyfer pobol hŷn yn filiynau o bunnoedd bob blwyddyn, ac yn effeithio ar filoedd o bobol, meddai.

Yn ôl yr adroddiad, mae amrywiaeth anesboniadwy mewn gwariant ar ofal preswyl a chostau gofal iechyd parhaus o un lle i’r llall, sy’n awgrymu bod y polisi’n cael ei weithredu’n annheg ar draws Cymru.

Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod eu diwygiadau arfaethedig yn ymdrin â’r materion hyn, meddai’r Archwilydd Cyffredinol, a rhoi ansawdd a chanlyniadau wrth wraidd y broses gomisiynu.

Argymhellion

Mae adroddiad Archwilio Cymru’n dweud mai “tameidiog” yw’r wybodaeth am berfformiad mewn perthynas â chomisiynu iechyd a gofal cymdeithasol, a dydi hi ddim glir a yw nodau polisi na’r amcanion llesiant yn cael eu cyflawni.

Ar ôl cwblhau adolygiad ar gomisiynu lleoliadau mewn cartrefi gofal ar gyfer pobol hŷn yn y gogledd, mae’r adroddiad yn ystyried materion o bwys cenedlaethol ehangach, ac yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru eu hystyried wrth gymryd camau mewn ymateb i’r Papur Gwyn ar Ailgydbwyso Gofal a Chymorth.

Mae Archwilio Cymru yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried eu canfyddiadau drwy leihau cymhlethdod cyfrifoldebau cyllido ar draws partneriaid.

Maen nhw hefyd am i Lywodraeth Cymru gymryd camau i fynnu trefniadau craffu ac atebolrwydd gan fyrddau rhanbarthol, a datblygu fframwaith ar gyfer adrodd am berfformaid ar sail canlyniadau.

‘Darparu gwasanaeth gwell’

“Er bod y rhan fwyaf o’r problemau a wynebir yn y gwasanaethau gofal yn awr wedi bod yno o’r blaen, mae pandemig COVID-19 wedi datgelu pwysigrwydd y gwasanaethau hyn a hefyd pa mor fregus ydynt ledled Cymru,” meddai Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y diwygiadau a gynllunnir ganddi yn datrys y problemau heriol sy’n bod ers amser maith ynghylch comisiynu cartrefi gofal a gofal integredig.

“Dyma’r cyfle i adeiladu consensws ynglŷn â’r newidiadau sy’n angenrheidiol er mwyn darparu gwasanaethau gwell i’r rhai sydd mewn angen.”

‘Heriau amlwg’

“Cyfeiriodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus at bryderon am y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru pan gymerodd dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd,” meddai Mark Isherwood, cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd.

“Mae’r heriau sy’n wynebu’r sector yn amlwg, ac yn ôl canfyddiadau’r Archwilydd Cyffredinol ynglŷn â chomisiynu cartrefi gofal ar gyfer pobl hŷn, nid yw brosesau yn cyflawni yn unol â disgwyliadau deddfwriaeth flaenorol i’r miloedd lawer o bobol ledled Cymru y mae’r materion hyn yn effeithio arnynt.

“Mae angen i gynghorau a byrddau iechyd ysgwyddo eu cyfran nhw o’r cyfrifoldeb am wneud i’r system weithio ar lawr gwlad, ond mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â gwraidd y materion y mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi’u nodi yn ei adroddiad.

“Edrychaf ymlaen at glywed sut mae Fforwm Gofal Cymru a’i aelodau yn ymateb i ganfyddiadau’r adroddiad hwn.”