Bydd fferyllfeydd cymunedol Cymru yn gallu cynnig ystod ehangach o wasanaethau o fis Ebrill.

Mae’r newidiadau’n golygu y bydd modd i gleifion gael mynediad at rai o wasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol mewn fferyllfeydd.

Fe fydd y cytundeb, sydd wedi’i gymeradwyo gan Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, yn galluogi pob fferyllfa gymunedol i roi triniaethau ar gyfer mân anhwylderau, brechiadau ffliw, a rhai dulliau o atal cenhedlu brys a rheolaidd.

Byddan nhw hefyd yn gallu sicrhau bod meddyginiaethau ar bresgripsiwn rheolaidd ar gael mewn argyfwng.

Mae’r Fframwaith Cytundebol Fferylliaeth Gymunedol, sydd wedi’i gytuno ar y cyd â Fferylliaeth Gymunedol Cymru, hefyd yn cynnwys cynlluniau i sefydlu gwasanaeth fferylliaeth sy’n rhoi presgripsiynau ledled Cymru.

Bydd y fframwaith yn galluogi fferyllwyr sydd wedi’u hyfforddi’n briodol i drin ystod ehangach o gyflyrau y mae’n rhaid mynd at feddyg teulu i gael sylw atyn nhw ar hyn o bryd.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y newidiadau yn golygu bod modd i bobol gael triniaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn “gyfleus ac yn hygyrch, ac yn agosach at y cartref”.

Yn ei dro, bydd hyn yn rhyddhau amser meddygon teulu a gwasanaethau eraill y Gwasanaeth Iechyd er mwyn iddyn nhw allu cefnogi cleifion ag anghenion mwy cymhleth, meddai’r llywodraeth.

‘Dulliau arloesol’

Dywed Eluned Morgan fod y newidiadau i’r fframwaith yn “cynrychioli’r newid sylfaenol mwyaf i’r modd y mae fferyllfeydd yn gweithredu ers sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol fwy na 70 mlynedd yn ôl”.

“Mae ein ‘presgripsiwn newydd’ ar gyfer fferylliaeth gymunedol yn amlinellu dull cydweithredol, arloesol a blaengar o ddarparu gofal fferyllol,” meddai.

“Mae fferyllwyr yn arbenigwyr mewn meddyginiaethau, ac maent yn ymgymryd â hyfforddiant cynhwysfawr er mwyn cynorthwyo pobol i drin ystod o fân anhwylderau.

“Bydd defnyddio’r sgiliau sydd gan dimau fferylliaeth gymunedol yn sicrhau ein bod yn gallu cwrdd ag anghenion y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a phobol Cymru nawr, ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Rydym bob amser yn chwilio am ddulliau arloesol er mwyn sicrhau bod ein gwasanaeth iechyd yn gwella gwasanaethau i gleifion.

“Bydd y diwygiadau sylweddol hyn o gymorth i fferyllfeydd gwrdd â disgwyliadau newidiol dinasyddion Cymru a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”

‘Argoeli’n dda’

Dywed Russell Goodway, Prif Weithredwr Fferylliaeth Gymunedol Cymru, fod fferyllwyr cymunedol “wedi dadlau ers blynyddoedd y buasent yn gallu gwneud mwy o gyfraniad tuag at anghenion Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru a’i gleifion drwy ddarparu ystod ehangach o wasanaethau clinigol”.

“Mae’r pandemig COVID-19 wedi cadarnhau hyn, ac mae Fferylliaeth Gymunedol Cymru yn falch o fod wedi gallu cydweithio â Llywodraeth Cymru yn ystod cyfnod heriol i ddatblygu fframwaith cytundebol fferylliaeth gymunedol newydd yng Nghymru,” meddai.

“Bydd hyn yn sicrhau mai’r fferyllfa leol fydd y man galw cyntaf ar gyfer ystod o wasanaethau clinigol gan ymdrin â nifer o gyflyrau y mae’n rhaid cael apwyntiad gyda meddyg teulu i’w trin ar hyn o bryd.

“Mae’r cytundeb hwn yn argoeli’n dda ar gyfer y rhwydwaith fferylliaeth gymunedol yng Nghymru, gan osgoi’r trafferthion sy’n wynebu cydweithwyr yn Lloegr o ganlyniad i doriadau i gyllid fferylliaeth gymunedol.”

I ddechrau, bydd fferyllwyr sy’n bresgripsiynwyr yn gallu rhoi presgripsiynau am feddyginiaethau ar gyfer anhwylderau acíwt megis heintiau’r llwybr wrinol a’r system anadlu uchaf, yn ogystal â rhoi presgripsiynau ar gyfer dulliau atal cenhedlu cyffredin.

Yn ychwanegol i’r diwygiadau, mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau cyllid i alluogi fferyllfeydd i weithredu systemau awtomataidd arloesol.

Bydd “robotiaid fferyllol” a systemau sy’n debyg i beiriannau twll yn y wal yn sicrhau bod modd casglu presgripsiynau 24 awr y dydd.