Bydd Llywodraeth Cymru’n derbyn £135 miliwn o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i fynd tuag at ehangu’r rhaglen frechu ac ymateb i’r pandemig.

Yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig bydd yr arian ychwanegol hwn yn rhoi sicrwydd nawr i’r llywodraethau datganoledig, yn hytrach na’u bod nhw’n gorfod aros am y broses amcangyfrifon atodol fformiwla Barnett yn y flwyddyn newydd.

Mae’r arian yn ychwanegol i’r cyllid sydd wedi’i amlinellu yng Nghyllideb Hydref 2021.

Os fydd y cyllid ychwanegol i’r llywodraethau datganoledig yn fwy na’r arian a fydd yn cael ei roi drwy fformiwla Barnett ac yn cael ei gadarnhau yn ystod y broses amcangyfrifon atodol, yna bydd y gwahaniaeth yn cael ei ad-dalu yn 2022-23, neu yn ystod yr Adolygiad Gwario.

Os yw’r cyllid canlyniadol drwy fformiwla Barnett yn uwch na’r swm sydd wedi’i roi, yna bydd Llywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cadw’r arian ychwanegol.

“Cynnig sicrwydd”

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart: “Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf rydyn ni wedi mynd i’r afael â’r pandemig fel un Deyrnas Unedig, gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn darparu brechlynnau a phrofion Covid, a’r Lluoedd Arfog yn cefnogi Cymru, yn ogystal â’n mesurau ariannol arloesol sydd wedi amddiffyn tua 500,000 o swyddi yng Nghymru.

“Mae’r cyhoeddiad cyllid hwn yn cynnig sicrwydd i Lywodraeth ddatganoledig Cymru wrth iddyn nhw gynllunio’u hymateb i’r pandemig dros yr wythnosau nesaf, a bydd yn cael ei ddilyn gan record o setliad gwerth £18 biliwn y flwyddyn [a gafodd ei gyhoeddi] yn y Gyllideb ddiweddar fel bod Llywodraeth Cymru yn gallu darparu gwasanaethau hanfodol gan gynnwys iechyd, addysg ac amddiffynfeydd llifogydd dros y blynyddoedd nesaf.”

Cynnal cyfarfod Cobra gyda’r llywodraethau datganoledig

Mae hi’n “amlwg yn fuddiol” i’r gwledydd datganoledig rannu gwybodaeth am y coronafeirws, medd Rhif 10 Stryd Downing

Cymru’n derbyn arian ychwanegol gan San Steffan i dalu am ddosys atgyfnerthu

Bydd y Canghellor Rishi Sunak yn cyhoeddi’r swm yn y dyddiau nesaf, ac yn parhau i adolygu’r sefyllfa, meddai