Mae cyfarfod Cobra – y pwyllgor materion brys – i gael ei gynnal heddiw (dydd Mercher, Rhagfyr 15) i drafod y Coronafeirws a’r ymateb i’r amrywiolyn Omicron.

Bydd Michael Gove, ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn cyfarfod ag arweinwyr Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Bydd Prif Weinidog Prydain yna’n cynnal cynhadledd i’r wasg am 5pm heno (dydd Mercher, Rhagfyr 15).

Mae disgwyl i Boris Johnson roi’r diweddaraf ar gynnydd y rhaglen atgyfnerthu a sefyllfa’r amrywiolyn Omicron yn Lloegr.

Ond deellir na fydd yn cyhoeddi unrhyw fesurau coronafeirws pellach.

“Amlwg yn fuddiol”

Cyn y cyfarfod heddiw, dywedodd Rhif 10 ei bod hi’n “amlwg yn fuddiol” i’r gwledydd datganoledig rannu gwybodaeth am y coronafeirws.

Cadarnhaodd Downing Street y cyfarfod gyda’r gweinyddiaethau datganoledig a dywedodd llefarydd swyddogol y Prif Weinidog y byddent yn trafod “yr ymateb parhaus ledled y Deyrnas Unedig i’r amrywiolyn Omicron”.

Dywedodd: “Rydym wedi cael llwyddiant drwy gydol y broses o rannu gwybodaeth a dulliau gweithredu a byddwn yn parhau i wneud hynny.”

Cobra

Daw hyn bythefnos ar ôl i gais Mark Drakeford a Nicola Sturgeon am y fath gyfarfod gael ei wrthod.

Roedden nhw wedi anfon llythyr ar y cyd at Brif Weinidog Prydain yn galw arno i gymryd mesurau brys i ymateb i’r amrywiolyn Omicron.

Dywedodd yr arweinwyr eu bod nhw’n “dymuno gweld y dystiolaeth ddiweddaraf gan arbenigwyr iechyd Llywodraeth Prydain ynglŷn â’r amrywiolyn” a “deall y darlun rhyngwladol, ynghyd â’r goblygiadau y gallai ei gael ar y Deyrnas Unedig”.

Maen nhw hefyd yn credu ei bod hi’n “hollbwysig” fod y llywodraethau’n gwneud “popeth yn eu gallu” i beidio gwneud ymdrechion y Gwasanaeth Iechyd yn ofer drwy beidio â chaniatáu teithio a mewnforio i Brydain fel ag y mae.

Wrth ymateb i’r cais am gyfarfod Cobra bryd hynny, dywedodd Downing Street y bydden nhw’n “cadarnhau unrhyw gynlluniau ar gyfer cyfarfod Cobra yn y ffordd arferol”.

Galwad

Hefyd yn y llythyr, nododd Nicola Sturgeon a Mark Drakeford eu dyhead i wneud prawf PCR yn orfodol i deithwyr ar yr wythfed diwrnod ar ôl cyrraedd y Deyrnas Unedig, yn ogystal ag ailgyflwyno hunanynysu ar gyfer y cyfnod hwnnw.

Roedden nhw’n galw ar y Trysorlys i gyllido unrhyw gefnogaeth ariannol mae’r llywodraethau datganoledig yn ei rhoi i fusnesau.

“Mae ymddangosiad Omicron wedi peri bygythiad posib i’r Deyrnas Unedig,” meddai’r arweinwyr datganoledig yn y llythyr.

“Yn amlwg, mae’r straen yma’n barod a’i fod yn ymddangos yn drosglwyddadwy iawn.

“Bydd angen inni felly weithio yn gydweithredol – a’n effeithiol – fel Pedair Gwlad i gymryd pob cam rhesymol i reoli dyfodiad y firws i’r wlad a lleihau ei ledaeniad.”

Omicron yng Nghymru

Mae 30 achosion newydd o’r amrywiolyn Omicron wedi eu cofnodi yng Nghymru heddiw.

Yn ôl y ffigyrau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae cyfanswm o 62 achos o’r amrywiolyn wedi eu cofnodi yng Nghymru bellach.

Roedd nifer o achosion tybiedig o Omicron wedi cael eu cadarnhau drwy broses genoteipio, sydd yn broses wahanol i brofion PCR.

Mae disgwyl y bydd achosion yn cynyddu yn sylweddol dros wythnosau nesaf, gyda darogan blaenorol y bydd pig yr achosion ym mis Ionawr.