Mae Neuadd Brangwyn yn Abertawe’n dweud nad oedd manylion personol cwsmeriaid wedi’u peryglu yn dilyn e-bost amheus ddechrau’r wythnos.

Aeth e-bost at gyfeiriadau sydd wedi’u cofrestru i dderbyn gwybodaeth, yn hysbysebu’r sioe The Art of Believing.

Dywedodd y neges fod y sioe wedi cael ei symud i fis Medi y flwyddyn nesaf, ond y byddai “eich tocynnau’n ddilys o hyd”.

“Fodd bynnag, os nad ydych yn gallu dod ar y dyddiad newydd ac mae angen ad-daliad arnoch, e-bostiwch…

“Diolchwn i chi am eich dealltwriaeth ar yr adeg hon.”

‘Wedi’i hanfon ar ddamwain’

Mewn neges arall heddiw, dywed Neuadd Brangwyn fod y neges flaenorol wedi’i hanfon “ar ddamwain”.

“A wnewch chi dderbyn ein hymddiheuriadau os ydych chi wedi derbyn e-bost am ‘Art of Believing’ yn Neuadd Brangwyn,” meddai’r ail neges.

“Anfonwyd yr e-bost ar ddamwain.

“Hoffem eich sicrhau nad yw’ch manylion cyswllt wedi’u peryglu mewn unrhyw ffordd.

“Os byddai’n well gennych beidio â derbyn e-byst gan Theatr y Grand neu Neuadd Brangwyn, gallwch danysgrifio [sic] isod.”