Mae Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throsedd gogledd Cymru yn “falch iawn” y bydd ymgyrch y mae wedi’i chefnogi yn helpu i achub bywydau dioddefwyr cam-drin domestig.

Dywed ei fod wedi arwain at newid i ddeddfwriaeth sy’n golygu y bydd yn rhaid i gam-drin domestig a throseddau rhywiol yn y dyfodol gael eu trin yr un mor ddifrifol â throseddau cyllyll a llofruddiaeth.

Bydd y diwygiad i Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd yn ei gwneud yn ddyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol, heddluoedd ac asiantaethau eraill i weithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â thrais difrifol.

Ynghyd â Chomisiynwyr Heddlu a Throsedd eraill, bu Andy Dunbobbin yn gweithio gyda grŵp pwyso SaveLives i sicrhau’r newid i’r ddeddfwriaeth sydd bellach wedi’i chefnogi gan yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel.

Mae mynd i’r afael â cham-drin domestig yn flaenoriaeth allweddol yng Nghynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd sy’n gosod allan y cynllun cyffredinol y mae’n rhaid i’r Prif Gwnstabl Carl Foulkes ei weithredu wrth blismona Gogledd Cymru.

Eleni, mae £1.4 miliwn yn ychwanegol wedi’i i gefnogi gwaith sefydliadau sy’n darparu cefnogaeth hanfodol i ddioddefwyr cam-drin yn y Gogledd.

Ymhlith y rhai sydd wedi derbyn cyllid y mae Uned Diogelwch Cam-drin Domestig Gogledd Cymru, Cerrig Camu Gogledd Cymru, y Ganolfan Cyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC), y Ganolfan Cefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol (RASASC) Gogledd Cymru a Gorwel.

“Amddiffyn a chefnogi pobl”

Dywedodd Andy Dunbobbin: “Mi wnes i sefyll yn yr etholiad oherwydd fy mod i eisiau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a gweladwy i fywydau pobl.

“Rwy’n gweld amddiffyn a chefnogi pobl agored i niwed fel un o agweddau pwysicaf fy rôl fel comisiynydd heddlu a throsedd.

“Dyna pam ei bod yn flaenoriaeth mor uchel yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd cyntaf fy mod i’n cyflawni addewidion fy maniffesto etholiad.

“Roeddwn yn falch o gefnogi ymgyrch SaveLives ac yn falchach byth ei bod wedi arwain at y newid sylfaenol bwysig yma i’r ddeddfwriaeth.

“Heb os, bydd hyn yn arwain at achub bywydau yma yng ngogledd Cymru a ledled y DU trwy helpu dioddefwyr i dorri’n rhydd o’r cylch o gamdriniaeth a dioddefaint wrth sicrhau bod troseddwyr yn wynebu canlyniadau eu gweithredoedd ac yn cael eu cosbi yn unol â’r gyfraith.

“Mae’r newidiadau i’r Bil yn golygu bod yn rhaid i awdurdodau lleol, heddluoedd ac asiantaethau eraill fynd i’r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol i’r un graddau â throsedd cyllyll ac achosion o ladd.

“Bydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r holl asiantaethau perthnasol weithio gyda’i gilydd i roi diwedd ar felltith cam-drin domestig i bawb, am byth.”

“Neges glir iawn”

Dywedodd y Comisiynydd Cam-drin Domestig, Nicole Jacobs: “Mae’n anfon neges glir iawn i ddioddefwyr a goroeswyr bod mynd i’r afael ac atal cam-drin domestig a thrais rhywiol yn brif flaenoriaethau ac nid yn bethau ychwanegol dewisol.

“Bydd y newid hwn yn sicrhau bod ymagwedd o fynd i’r afael â throseddau treisgar difrifol o ymyrraeth gynnar yn cael ei mabwysiadu, sy’n canolbwyntio ar iechyd y cyhoedd.”