Gallai cynlluniau San Steffan i ddiwygio’r Ddeddf Hawliau Dynol arwain at “broblem ddemocrataidd” o ran setliad datganoli Cymru, meddai’r Athro Emyr Lewis.
Mae Dominic Raab wedi dweud y bydd y diwygiadau’n ychwanegu “dos iach o synnwyr cyffredin” i’r ffordd mae deddfwriaeth a dyfarniadau yn cael eu dehongli.
Ond yn ôl Emyr Lewis, mae “problem wleidyddol” yn codi gan fod pobol Cymru wedi pleidleisio mewn dau refferendwm ar ddatganoli i’w gwneud hi’n ddyletswydd ar wahân i Lywodraeth Cymru, ac felly Senedd Cymru, gydymffurfio gyda’r hawliau dynol yng Nghonfensiwn Hawliau Dynol Ewrop.
Dydi dogfen ymgynghorol San Steffan ar y diwygiadau ddim fel ei bod yn ystyried bod hawliau dynol wedi cyrraedd Cymru mewn ffordd wahanol i Loegr, meddai, ac mae’n codi’r cwestiwn a yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig am “amddifadu hawl pobol Cymru” i gael llywodraeth sy’n gorfod bod yn atebol i ddilyn yr hawliau yn y confensiwn.
Hawliau Dynol yng Nghymru
Ar hyn o bryd, mae hawliau dynol yn rhan o’r gyfraith yng Nghymru mewn dwy ffordd – i ddechrau, drwy Ddeddf Hawliau Dynol y Deyrnas Unedig 1998.
Golyga hynny bod rhaid i gyrff cyhoeddus gydymffurfio â’r hawliau sydd wedi’u gosod yng Nghonfensiwn Hawliau Dynol Ewrop.
“Yn y pen draw, os ydyn ni’n torri ar draws yr hawliau hynny mae modd mynd i’r llys yn Strasbwrg i geisio gorchymyn, neu geisio iawn, os ydi’r Deyrnas Gyfunol fel gwladwriaeth ddim yn darparu iawn,” meddai Emyr Lewis, pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth, wrth golwg360.
“Mae yna sefyllfaoedd arbennig ac anodd wedi codi lle mae gwleidyddion yma wedi anghytuno gyda phenderfyniadau llysoedd yn Strasbwrg, ac er nad oes gan lysoedd yn Strasbwrg rym dros y Deyrnas Gyfunol fel oedd gan Lys yr Undeb Ewropeaidd ers talwm, cyn Brexit, mae eu dylanwad nhw ar be sy’n digwydd yma’n gryf iawn.”
Ond cyn Deddf Hawliau Dynol 1998, cafodd Deddf Llywodraeth Cymru 1997 ei chyflwyno.
“Dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1997, ac wedyn deddf arall yn 2006, mae yna ddyletswydd ar wahân ar Lywodraeth Cymru i gydymffurfio gyda’r hawliau dynol,” eglurodd Emyr Lewis.
“Ar ben hynny mae yna ddyletswydd ar y Senedd yng Nghaerdydd i beidio â deddfu yn groes i’r hawliau dynol.
“Mae hynny’n wahanol i’r Senedd yn Llundain.
“Be sydd gennych chi yng Nghymru yw system lle mae pobol Cymru wedi pleidleisio mewn refferendwm i dderbyn sefyllfa lle bo’r hawliau dynol yma’n cael eu cynnwys fel rhan o gyfansoddiad Cymru, os ydych chi’n licio.”
“Problem ddemocrataidd”
Dydi hi ddim fel na phetai’r ffordd mae hawliau dynol wedi cyrraedd Cymru’n cael ei ystyried o fewn papur ymgynghorol y Llywodraeth, meddai Emyr Lewis.
“A’r cwestiwn sy’n codi ydi hyn: Os ydi’r math o beth sy’n cael ei amlinellu yn y ddogfen ymgynghorol yn dod i fodolaeth, yna mi fydd y cyswllt gyda Chonfensiwn Ewrop a llys Ewrop, a’r math o hawliau y mae gan bobol hawl iddyn nhw, y ffordd y bydd yr hawliau hynny’n cael eu diogelu, a’r graddau y bydden nhw’n cael eu diogelu… bydd hynny’n newid,” meddai.
“Os ydych chi’n newid hynny yn achos y Ddeddf Hawliau Dynol [1998], be ydych chi’n mynd i wneud ynghylch yr hawliau sy’n bodoli yng Nghymru? Nid o dan y Ddeddf Hawliau Dynol, ond drwy setliad datganoli Cymru.
“Ydi Senedd San Steffan yn mynd i amddifadu pobol Cymru o’r hawl i gael Llywodraeth Cymru, a hefyd Senedd Cymru, sy’n atebol yn y llysoedd i beidio mynd yn groes i hawliau’r Confensiwn Ewropeaidd?
“Ac ydyn nhw’n mynd i wneud hynny heb gynnal refferendwm ar y pwnc? Sef yr hyn fyddech chi’n ei ddisgwyl.
“Os yw pobol Cymru wedi dweud ‘Rydyn ni wedi pleidleisio i dderbyn y setliad yma, a rhan o’r setliad yma ydi hawliau dynol’ ac mae Senedd San Steffan yn dweud ‘Rydyn ni’n cymryd y rheina oddi arnoch chi nawr, fydd isie i chi gael y gyfundrefn newydd yma yn lle’… Mae yna broblem ddemocrataidd yn fan yna, mae yna broblem wleidyddol yn fan yna.
“Dw i’n credu mai’r prif anhawster yma yw’r gwrthdaro rhwng y ffordd mae’r Deyrnas Gyfunol yn edrych ar rym, ac mae grym y Senedd yn Llundain ydi’r grym mwyaf oll – ac mae hynny’n wir erioed.”
Diwygiadau arfaethedig
Mae’r ddogfen ymgynghorol yn nodi cynlluniau i ddod â’r arfer o lysoedd y Deyrnas Unedig yn newid deddfwriaeth newydd i ben, gan adael hynny i “unigolion etholedig” yn y senedd.
Er mwyn i achos o ymyrryd ar hawliau dynol gael ei glywed mewn llys, byddai’n rhaid mynd drwy ‘gam caniatâd’ i ddechrau, a phrofi eich bod chi wedi dioddef “anfantais sylweddol” neu fod yr achos yn un o “bwysigrwydd cyhoeddus trosgynnol”.
“Mae hwn wrth gwrs yn golygu mwy o gamau yn y broses, mwy na thebyg mwy o gost, ac yn sicr yn golygu mwy o oedi, fyswn i’n ei ddweud, o ganlyniad i hyn o ran cael atebolrwydd ar dorri ar hawliau dynol,” meddai Emyr Lewis.
Mae’r llywodraeth am i lysoedd ganolbwyntio ar achosion o ‘genuine human rights abuses‘, ac mae hi’n anodd gwybod beth yw ystyr ‘genuine’, meddai Emyr Lewis.
“Mae hyn yn chwarae mewn i’r syniad yma bod rhai o’r hawliau ddim yn bwysig go iawn.
“Fy mhryder i gyda hyn – mae’r hyn sy’n gymharol ddibwys, neu ddim yn broblem, i un person yn gallu bod yn ymyrraeth waelodol ar ryddid neu hawliau person arall,” meddai.
“O safbwynt y dioddefwr, mae’r hyn sy’n cael ei gynnig yn fan hyn yn swnio ychydig bach fel ‘Niwsans ydi’r bobol yma sy’n dioddef ymyrryd ar eu hawliau dynol. Rydyn ni’n gwybod yn well pa hawliau sy’n bwysig i’w cynnal a’u diogelu, neu sut mae cynnal a diogelu hawliau’. Dyna yw’r pryder.”