Mae prifathro o Wynedd yn pryderu bod cadw ysgolion ar agor am achosi problemau ynghylch staffio.

Fe gadarnhaodd Cyngor Gwynedd y byddai ysgolion y sir yn aros ar agor tan ddydd Mercher, 22 Rhagfyr, yn wahanol i siroedd eraill yn y gogledd.

Bydd ysgolion yn Ynys Môn, Sir Ddinbych, Sir Y Fflint a Wrecsam, yn cau ddydd Gwener (17 Rhagfyr), a bydd dysgu yn symud ar-lein wythnos nesaf, i geisio lleihau lledaeniad Covid-19.

Daw hyn yn sgil pryderon dybryd ynglŷn â’r amrywiolyn Omicron, sydd eisoes wedi achosi i Lywodraeth Cymru gyflymu’r rhaglen frechlyn atgyfnerthu.

‘Codi lefel y peryglon’

Yn siarad ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru fore heddiw (dydd Mercher, 15 Rhagfyr), roedd Neil Foden, pennaeth Ysgol Friars ym Mangor, yn bryderus y byddai cadw ysgolion ar agor yn achosi problemau staffio, gyda recriwtio staff llanw eisoes yn anodd.

“Dw i’n cydymdeimlo efo pobol sy’n gorfod gwneud y penderfyniadau,” meddai Foden, sydd hefyd yn bennaeth strategaethol yn Ysgol Dyffryn Nantlle.

“Yn arbennig mewn ysgolion uwchradd, ar un llaw os ydyn nhw’n cau yn gynharach na’r disgwyl, maen nhw’n mynd i leihau’r amser sydd gan blant ym mlynyddoedd 11, 12, 13, sy’n wynebu arholiadau ym mis Ionawr ac yn yr haf.

“Ond ar y llaw arall, maen nhw’n codi lefel y peryglon i’r plant.

“Yng Ngwynedd, mae ’na broblem ychwanegol rŵan sef y penderfyniadau sydd wedi cael eu gwneud gan y siroedd ffiniol, yn arbennig Ynys Môn, ac mae hynny’n mynd i gynyddu pwysau ar yr awdurdod i ailystyried y penderfyniad i gadw ysgolion ar agor.”

‘Dim digon o staff’

“Mae nifer o’n staff ni (yn Friars) yn byw ar yr ynys, a rhai dros y ffin yng Nghonwy, sydd fel dw i’n deall heb wneud penderfyniad eto,” meddai Neil Foden.

“Ond mae gan staff yr hawl i gael amser i ffwrdd, os oes ganddyn nhw sefyllfaoedd argyfyngus, yn arbennig gyda gofal plant.

“Felly er ein bod ni wedi llwyddo i fynd trwy’r tymor heb orfod anfon grwpiau o blant adref, os ydyn ni’n hitio pwynt dechrau wythnos nesaf lle mae lot o staff i ffwrdd naill ai yn sâl neu yn gofalu am eu plant, mae sefyllfa athrawon llanw yn brin ofnadwy ar hyn o bryd,

“Mae’n debyg iawn y byddwn ni’n cyrraedd pwynt lle bydd gennyn ni ddim digon o staff.

“Petai ni’n gallu cadw ar agor, byddwn i’n licio gwneud hynny, oherwydd mae ysgolion uwchradd yn yr ardal i gyd wedi colli gymaint o amser dysgu.

“Ond ar y llaw arall, pa fath o addysg ydyn ni’n gallu cynnig os ydyn ni gorfod dibynnu ar athrawon llanw neu hyd yn oed roi grwpiau a blynyddoedd efo’i gilydd yn y neuadd jyst er mwyn goruchwylio nhw?”

Cyhoeddiad Cyngor Gwynedd

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Gallwn gadarnhau y bydd ysgolion Gwynedd yn parhau ar agor tan 22 Rhagfyr yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

“Bydd Grŵp Gwyliadwriaeth ac Ymateb Aml-Asiantaeth Gwynedd – sydd yn cynnwys cynrychiolwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – yn parhau i fonitro’r sefyllfa’n agos ac yn ymateb yn briodol i’r holl ddata wyddonol sydd ar gael.

“Ar hyn o bryd, mae’r data yma’n dangos fod cyfraddau heintio yng Ngwynedd wedi gostwng yn sylweddol dros yr wythnos ddiwethaf. Serch hyn, os yw’r sefyllfa yn newid, mae trefniadau mewn lle i symud i ddysgu cyfunol os yw ysgol unigol yn cyrraedd hiciau penodol o ran niferoedd achosion a/neu lefelau staffio.

“Fel Cyngor rydym yn ddiolchgar i holl staff ein hysgolion am eu gwaith caled a’u hymrwymiad drwy’r cyfnod anodd yma ac i rieni a gwarchodwyr am eu cefnogaeth a’u dealltwriaeth barhaus.”