Mae’r Llywydd wedi cyhoeddi cyfres o newidiadau i’r modd y bydd y Senedd yn gweithredu, gan osod cyfyngiadau ar hyn y gall Plaid Cymru wneud yn sgil y cytundeb cydweithio â Llafur.

Fis diwethaf fe ddywedodd Elin Jones, sy’n gyfrifol am redeg y Senedd, fod y “trefniadau” yn y ddêl newydd yn codi cwestiynau am y ffordd mae’r senedd yn cynnal ei busnes.

Mewn datganiad heddiw (dydd Mercher 15 Rhagfyr) dywedodd bod y cyngor cyfreithiol yn “ei gwneud yn glir” nad yw Plaid Cymru yn rhan o’r llywodraeth a’i bod yn “parhau i fod yn wrthblaid yn y Senedd”.

Ond trwy ei ‘Haelodau Dynodedig’ fe fydd gan y blaid “fynediad at wybodaeth a chyfranogiad mewn gwneud penderfyniadau ar y cyd” na fydd gan y gwrthbleidiau eraill.

Mae hyn yn cynnwys cael mynediad i benodi cynghorwyr arbennig, mynediad at weision sifil, ac at weithrediadau cysylltiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru.

Addasiadau

O ganlyniad mae’r Llywydd wedi penderfynu gwneud “addasiadau” i’r ffordd y mae’r Senedd yn cael ei rhedeg “i adlewyrchu’r rôl newydd hon yn fwy priodol”.

Bydd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, yn parhau â’i hawl i ofyn tri chwestiwn i’r Prif Weinidog heb rybudd bob wythnos, ond na ddylai eu defnyddio “i hyrwyddo unrhyw feysydd polisi sy’n dod o dan y Cytundeb”.

Bydd nifer y cwestiynau y bydd hawl gan lefarwyr Plaid eu gofyn i weinidogion Llywodraeth Cymru heb rybudd yn cael ei gyfyngu i ddau, yn lle tri.

Ac ni fydd ‘Aelodau Dynodedig’ Plaid Cymru yn cael eu galw i ofyn cwestiynau llefarwyr.

Hefyd, ni fydd Adam Price na’r ‘Aelodau Dynodedig’ yn cael eu galw gan y Llywydd i ofyn cwestiynau ar wahân “mewn perthynas â materion etholaethol neu ranbarthol”.

Bydd yr amser sy’n cael ei roi i Blaid Cymru i gynnal dadleuon fel gwrthblaid yn cael ei “leihau”.

‘Gwarchod hawliau’

Yn ei datganiad mae’r Llywydd hefyd yn dweud y byddai’n “gwarchod hawliau” grŵp y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol, Jane Dodds.

“Er enghraifft, drwy barhau i alw Aelodau o grŵp y Ceidwadwyr i siarad gyntaf. Yn ôl fy arfer, sicrheir y bydd gan Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru gyfraniad mewn sesiynau cwestiynau,” meddai.

“Bydd trefn siaradwyr eraill yn adlewyrchu’r cydbwysedd priodol rhwng Aelodau Llafur ar y meinciau cefn a Phlaid Cymru.

“Fel democratiaeth sy’n esblygu dylem fod yn barod i lywodraethu mewn ffyrdd gwahanol sy’n gweithio er budd pobl Cymru ac rwy’n croesawu unrhyw gamau gan bleidiau gwleidyddol i ddwyn safbwyntiau gwahanol ynghyd er lles cyffredin.

“Fel Senedd, byddwn yn ystyried a ddylid gwneud unrhyw newidiadau tymor hwy i’n harferion a’n gweithdrefnau i adlewyrchu natur newydd y Cytundeb hwn. Byddaf yn parhau i adolygu materion wrth i weithrediad ymarferol y Cytundeb ddatblygu’r flwyddyn nesaf.”

Y cyfarfod llawn

Mae disgwyl i’r newidiadau i’r cyfarfod Llawn ddod i rym o ddechrau tymor y Gwanwyn ymlaen, ac maent fel a ganlyn.

  • Bydd Arweinydd Plaid Cymru yn parhau i allu gofyn 3 chwestiwn heb rybudd i’r Prif Weinidog bob wythnos, er na fyddwn yn disgwyl i’r cwestiynau hynny gael eu defnyddio i hyrwyddo unrhyw feysydd polisi a gwmpesir gan y Cytundeb. Dylai cwestiynau i unrhyw Weinidogion ganolbwyntio ar graffu ar waith y Gweinidogion hynny ac fel y cyfryw, rwy’n disgwyl i Arweinydd Plaid Cymru lunio cwestiynau yn unol â hynny. At hynny, fy mwriad yw archwilio ymhellach gyda’r Pwyllgor Busnes sut i hwyluso proses y Senedd o graffu ar waith Aelodau Dynodedig ac Arweinydd Plaid Cymru, o bosibl yn fisol yn achos yr Arweinydd, yn hytrach na chwestiynau’r Arweinydd i’r Prif Weinidog;

  • Caiff nifer y cwestiynau heb rybudd gan lefarwyr Plaid Cymru eu cyfyngu i 2 fesul sesiwn cwestiynau Gweinidogol;

  • Ni fydd Aelodau Dynodedig yn cael eu galw i ofyn Cwestiynau Llefarwyr;

  • Ni fydd Arweinydd Plaid Cymru nac Aelodau Dynodedig yn gallu gofyn cwestiynau (cwestiynau wedi’u cyflwyno na chwestiynau atodol), na chyfrannu at ddatganiadau ar bynciau heblaw’r rheini sy’n ymwneud â materion etholaethol neu ranbarthol. Gall Arweinydd Plaid Cymru gyfrannu at ddatganiadau gan y Prif Weinidog;

  • Gall Aelodau Dynodedig ac Arweinydd Plaid Cymru gyfrannu at ddadleuon, ond rwy’n disgwyl iddyn nhw ddatgan unrhyw fuddiannau ac arfer synnwyr cyffredin o ran yr hyn sy’n briodol, o ystyried eu rolau o dan y Cytundeb;

  • Bydd cymhareb yr amser ar gyfer cynnal dadl wrthblaid a ddyrennir i Blaid Cymru yn cael ei gostwng yn ôl nifer yr Aelodau Dynodedig (gan gynnwys Arweinydd Plaid Cymru) gyda’r amser yn cael ei ryddhau yn sgil ailddyrannu’r gweithgaredd hwn ar gyfer gweithgareddau nad ydynt yn rhai grŵp, er enghraifft dadl Aelodau.

Y Llywydd yn cymryd cyngor cyfreithiol ynghylch cytundeb Llafur a Phlaid Cymru

Jacob Morris

Yn ôl Elin Jones mae’r “trefniadau” yn newydd ac yn codi cwestiynau am y ffordd mae’r Senedd yn cynnal ei busnes

Arwyddo’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru

Mae arwyddo’r cytundeb heddiw (Rhagfyr 1) yn nodi dechrau ar bartneriaeth rhwng y ddwy blaid a fydd yn para tair blynedd.