Mae aelodau YesCymru wedi pleidleisio i blaid mabwysiadau strwythur a chyfansoddiad newydd.

Fe wnaeth 80% bleidleisio o blaid y mesur, gan olygu ei fod wedi pasio gyda’r mwyafrif anghenrheidiol o dros ddau draean.

Bydd YesCymru yn newid i fod yn gwmni cyfyngedig trwy warant gyda strwythur newydd, a bydd y gwaith o’i newid yn dechrau “ar unwaith”, meddai’r mudiad.

Fe fydd aelodau’n cael eu symud o’r YesCymru presennol i’r YesCymru Cyf. newydd.

Bydd y cyfnod enwebu ar gyfer ethol Cyfarwyddwyr yn agor o fewn yr wythnos nesaf, a bydd yr etholiad ei hun yn cael ei gynnal cyn diwedd mis Ionawr, meddai’r mudiad.

Yn ôl y mudiad, byddan nhw’n gyrru mwy o wybodaeth i aelodau ynghylch yr etholiad ar gyfer ethol corff rheoli newydd ddechrau’r wythnos nesaf.

Roedd rhaid gohirio’r bleidlais ddydd Gwener diwethaf (10 Rhagfyr), a chafodd y cyfnod pleidleisio ei ymestyn nes 5pm heno (15 Rhagfyr) wedi i “broblem bellach gyda’r bas data aelodaeth ddod i’r amlwg”.

“Yn ystod y broses wreiddiol, gwelwyd bod aelodaeth nifer sylweddol o bobol wedi dod i ben,” meddai YesCymru.

“Rydyn ni bellach wedi cysylltu â’r holl aelodau hynny gyda nodyn atgoffa ac maent wedi cael cynnig cyfle i adnewyddu eu haelodaeth. Byddwn yn parhau i gysylltu â nhw.”

Mae’n debyg nad oedd aelodau’r mudiad wedi bod yn cael e-byst i’w hatgoffa nhw bod eu haelodaeth yn dod i ben, a bod angen ailymaelodi.

Fe gafodd 9,782 o aelodau gynnig cyfle i bleidleisio rhwng dydd Sadwrn a heddiw, ac fe wnaeth 3,700 fwrw pleidlais, meddai YesCymru.

Pleidleisiodd 2,717 o blaid, 489 yn erbyn, ac fe wnaeth 137 ymatal eu pleidlais.